Pencadlys BBC Cymru
![]() | |
Math | adeilad ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | Hydref 2019 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4767°N 3.1794°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth tra-dechnolegol ![]() |
Perchnogaeth | BBC ![]() |
Mae Pencadlys BBC Cymru (Saesneg: BBC Wales Headquarters) yn adeilad yn Sgwâr Canolog, Caerdydd sy'n cynnwys swyddfeydd a stiwdios ar gyfer BBC Cymru yn ogystal â gwasanaethau technegol S4C.[1] Mae'r adeilad gwerth £120 miliwn yn cymryd lle hen Ganolfan Ddarlledu BBC Cymru yn Llandaf,[2]. Cyfeiriad swyddogol yr adeilad yw 3 Sgwâr Canolog.
Cynlluniwyd yr adeilad gan Foster a'i Bartneriaid, ac mae'n darparu lle ar gyfer 1,200 o staff ar bedwar llawr, gyda gofod ar gyfer swyddfeydd, stiwdios a chynhyrchu. Mae'r adeilad hanner maint y pencadlys blaenorol yn Llandaf. Bydd desgiau ar gael i 750 o staff gyda'r disgwyl na fydd pawb yn gweithio yn yr adeilad ar unrhyw adeg. Bydd y llawr gwaelod yn ofod cyhoeddus a masnachol gyda unedau wedi eu gosod ar gyfer siopau. Mae'r adeilad ar hen safle gorsaf fysiau Caerdydd Canolog.[3] Rhagwelir y bydd tua 50,000 o bobl yn ymweld â'r adeilad newydd bob blwyddyn. Cytunodd y BBC ar brydles 20 mlynedd ar yr adeilad am rent blynyddol o tua £25 fesul troedfedd sgwâr y flwyddyn gyda chwmni Rightacres Property, datblygwr y Sgwâr Canolog.[4]
Symud gweithgareddau o Landaf
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd rhai o staff y BBC symud i'r pencadlys newydd yn Hydref 2019. Roedd oedi yn y broses o symud gwasanaethau i'r adeilad ar ddechrau 2020 oherwydd problemau gyda'r dechnoleg newydd ac roedd angen cymryd fwy o amser i ddatrys hyn.[5]
Trosglwyddwyd gwasanaeth darlledu ac adran gyflwyno BBC Cymru i'r pencadlys ar 15 Gorffennaf 2020, gyda Leanne Thomas yn rhoi'r cyflwyniad i'r rhaglen BBC News at Six.[6] Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio Radio Cymru a Radio Cymru 2 i'r adeilad newydd.[7] Ar 31 Gorffennaf 2020, symudodd rhaglenni Radio Wales gyda rhaglen "Owen Money’s Golden Hour" am 10:00 y cyntaf i'w ddarlledu o'r adeilad newydd.
Darlledwyd y rhaglen deledu cyntaf o'r adeilad newydd ar 23 Medi 2020, gyda Catrin Heledd yn cyflwyno gêm pêl-droed merched Cymru yn erbyn Norwy. Symudodd prif raglenni newyddion BBC Wales Today a Newyddion (S4C) i'w stiwdios newydd ar 28 Medi 2020.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Central Square & BBC Wales Headquarters Building (Sept 14)". Design Commission for Wales. Cyrchwyd 28 September 2017.
- ↑ "First images inside BBC Wales' new £120m headquarters in the centre of Cardiff". Walesonline. Cyrchwyd 25 September 2017.
- ↑ "BBC Wales HQ at bus station site". BBC. Cyrchwyd 25 September 2017.
- ↑ "What the relocation of BBC Wales' headquarters means for Cardiff city centre". Walesonline. Cyrchwyd 25 September 2017.
- ↑ BBC Wales move to new Cardiff headquarters hit by 'technical problems' (en) , WalesOnline, 3 Mawrth 2020. Cyrchwyd ar 26 Gorffennaf 2020.
- ↑ BBC Wales Central Square studios in Cardiff go live (en) , BBC Wales News, 15 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd ar 26 Gorffennaf 2020.
- ↑ Radio Cymru’n darlledu o bencadlys newydd am y tro cyntaf , Golwg360, 25 Gorffennaf 2020.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Yr orsaf fysiau flaenorol yn Chwefror 2009
-
Ionawr 2017
-
Ebrill 2017
-
Hydref 2017