Parc Thompson, Caerdydd
Math | parc |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.4861°N 3.209°W |
Parc yn ardal Treganna, Caerdydd yw Parc Thompson, a elwid yn wreiddiol fel Cae Syr David.[1] Mae'n un o barciau hynaf y ddinas, yn cynnwys ardaloedd o goetir wedi'u cymysgu ag ardaloedd glaswelltog agored a phlanhigion addurniadol. Mae’r parc hanesyddol yn un gradd II, ac fe’i adwaenid yn wreiddiol fel Cae Syr David. Ceir stryd ger llaw a elwir yn 'Cae Syr Dafydd'. Mae'n gorwedd rhwng Pencisely Road i'r gogledd ac ychydig yn uwch yn ddaearyddol a Romilly Road i'r de sydd ar gwastatir gorlifdir Caerdydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Parc Thompson, a elwid gynt yn Cae Syr Dafydd, ar safle 10 erw yn ardal Treganna, Caerdydd. Credir bod yr enw gwreiddiol yn deillio o Syr Dafydd Matthew, a oedd yn byw yn y 15g ac a gafodd dir ym mhlwyf Llandaf ar gyfer gwasanaethau i'r Brenin Edward IV. Ar ddiwedd y 19g roedd y tir hwn yn eiddo i Mr Charles Thompson, aelod o'r teulu cyfoethog a dyngarol Thompson, a oedd yn byw gerllaw yn yr eiddo o'r enw 'Penhill'. Yn 1891 agorodd ardd ar y safle i'r cyhoedd. Adroddodd y Western Mail, "Mr Charles Thompson, a Cardiff Merchant, has handed over for the use of the residents of Cardiff, subject to certain stipulations, a small garden and field with a splendid view in Romilly road."[2]
Cafodd y Parc ei ehangu a’i dirlunio gan y dylunydd gardd enwog, Syr William Goldring, tua 1895. Ym 1911, rhoddodd Mr Thompson y parc i Gorfforaeth Caerdydd. Gyngor Caerdydd sy'n parhau i fod yn berchen ar y parc ac yn ei gynnal.[3]
Yn ystod rhyfel 1939-45 roedd swydd wardeniaid ARP (Air Raid Precautions) ym Mharc Thompson a thanc cyflenwad dŵr brys at ddefnydd y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol. Credir ei fod yn y parc uchaf, yn union i'r de o'r lawnt fowlio, lle mae man agored mawr erbyn hyn.[2]
Yn 2019, troswyd cwt ceidwaid y parc wrth fynedfa’r parc yn Romilly Road yn far coffi.[2]
Tirwedd
[golygu | golygu cod]Wedi'i leoli ar fryn, mae cymysgedd mawr o goed a llwyni yn y parc sydd wedi'i ffinio gan blanhigion blodeuol. Mae coetiroedd a phyllau yn gynefinoedd i fywyd gwyllt. Ger y pwll mae nifer o fannau addurnol wedi'u plannu gyda mannau bylbiau blodau gwyllt. Nid oes lawnt fowlio a phafiliwn ym Mharc Thompson bellach, ond mae ganddo ardaloedd glaswelltog agored mawr a rhwydwaith o lwybrau ag arwyneb. Mae'r parc yn dal cerfiad coeden anferth o'r 'dyn gwyrdd' (wedi'i dorri i lawr yn fonyn yn haf 2013) a cherflun efydd o 'Joyance' gan Syr William Goscombe John, a gomisiynwyd yn 1899 gan y tirfeddiannwr, Charles Thompson,[4] sy'n ffurfio canolbwynt y ffynnon.[3] ac mae ganddo lawer o gyfleusterau.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae Parc Thompson wedi'i leoli ger ffordd yr A4119 yn ardal Treganna yng ngorllewin Caerdydd, yn agos at Barc Fictoria a Chaeau Llandaf. Mae gwasanaethau Bws Caerdydd yn stopio ym mhen gogleddol a deheuol y parc.
Mewn diwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]Mae trac Boy Azooga "Walking Thompson's Park" wedi'i enwi wrth gyfeirio at y parc, gan fod y prif ganwr, Davey Newington, yn hanu o Gaerdydd. Cyfeirir at y parc hefyd yn eu trac "Jerry".
Oreil
[golygu | golygu cod]-
Map o leoliad Parc Thompson
-
Y parc tua 1905
-
Y fynedfa i'r parc
-
Golygfa o'r parc gyda'r pwll a'r cerflun gan William Goscombe John
-
Y gerddi ffurfiol
-
Y cae uchaf agored, Cae Syr Dafydd, sy'n ffurfio rhan uchaf y parc
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Thompson's Park (Sir David's Field)". Cadw. Cyrchwyd 8 Ionawr 2025.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Thompson Park - History". Gwefan Cardiff Parks. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2024.
- ↑ 3.0 3.1 "Cyngor Caerdydd: Park Thompson". Cyngor Caerdydd. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Thompson's Park (Sir Davids Field), Cardiff". Coflein - Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Parc Thomapson Gwefan Coflein
- Flog ar Barc Thompson Sianel Youtube Daily Vlogs UK, 2022