Otello
Delwedd:Francesco Tamagno as Otello 1887 - Sadie 1992 4p639.jpg, Desdemona (soprano), figurino di Alfredo Edel per Otello (1887) - Archivio Storico Ricordi ICON000887 B.jpg, Poster Otello by Giuseppe Verdi.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 g |
Dechrau/Sefydlu | 1884 |
Genre | opera |
Cymeriadau | Iago, Cassio, Roderigo, Lodovico, Montano, Herald, Desdemona, Emilia, Otello, Corws |
Libretydd | Arrigo Boito |
Lleoliad y perff. 1af | La Scala |
Dyddiad y perff. 1af | 5 Chwefror 1887 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Cyprus |
Hyd | 2.25 awr |
Cyfansoddwr | Giuseppe Verdi |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Otello yn opera a gyfansoddwyd gan Giuseppe Verdi rhwng 1884 a 1886 gyda libreto Eidaleg gan Arrigo Boito. Mae'r opera yn seiliedig ar ddrama Shakespeare Othello.[1]
Perfformiad cyntaf
[golygu | golygu cod]Perfformiwyd Otello am y tro cyntaf yn La Scala ar 5 Chwefror 1887 o dan arweiniad Franco Faccio. Chwaraewyd rhan Otelo gan Francesco Tamagno a rhan Desdemona, ei wraig, gan Romilda Pantaleoni yn y perfformiad cyntaf.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Cymeriad | Llais | |
---|---|---|
Otello, Cadfridog Mwraidd | tenor | |
Desdemona, ei wraig | soprano | |
Iago, llumanwr Otello | bariton | |
Emilia, gwraig Iago a morwyn Desdemona | mezzo-soprano | |
Cassio, Capten Otello | tenor | |
Roderigo, bonheddwr o Fenis | tenor | |
Lodovico, llysgennad gweriniaeth Fenis | Baswr | |
Montano, cyn llywodraethwr Ciprys | Baswr | |
Herodr | Baswr | |
Corws: Milwyr a morwyr Fenis; trefolion a phlant Cypris |
Plot
[golygu | golygu cod]Crynodeb fer o Otello[2]
Act 1
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y 15g, ar ynys Ciprys yn y Môr Canoldir, mae Otello, yn gadfridog yn y fyddin Fenisaidd, yn dinistrio llynges Twrci. Mae Otello yn ddyn du Affricanaidd ac yn Fŵr.
Mae Iago, un o is swyddogion Otello, yn dal dig yn erbyn Otello, oherwydd bod Otello wedi codi Cassio yn ddirprwy iddo. Mae Iago yn gweld Cassio fel ei brif gystadleuydd iddo wrth geisio dringo rhengoedd y fyddin. Mae Iago yn wneud i Cassio meddwi a gwneud ffŵl ohono'i hun. Mae Otello yn diswyddo Cassio.
Act 2
[golygu | golygu cod]Mae Iago yn awgrymu wrth Cassio y dylai ofyn i wraig Otello, Desdemona, am ei adferiad i swydd y dirprwy, gan fod gan Desdemona dylanwad mawr ar ei gŵr. Ychydig wedyn mae Iago'n ddweud wrth Otello y dylai cadw golwg ar y berthynas agos sy'n cael ei ffurfio rhwng Desdemona a Cassio.
Act 3
[golygu | golygu cod]Mae Emilia, gwraig Iago yn gweithio fel morwyn i Desdemona. Mae Iago'n gorfodi ei wraig i ddwyn un o hancesi Desdemona ar ei gyfer. Wedi cael gafael ar yr hances mae Iago yn ei roi yng nghartref Cassio
Mae Otello yn gweld Cassio ym meddiant hances Desdemona. Mae'r ffaith bod yr hances ym meddiant Cassio yn brawf bod Desdemona wedi rhoi arwydd o serch i Cassio. Mewn ffit o genfigen mae'n penderfynu ei lladd hi.
Act 4
[golygu | golygu cod]Mae Desdemona yn gweddïo cyn clwydo. Wrth iddi weddïo mae hi'n cael teimlad argoelus bod rhywbeth ofnadwy ar fin digwydd. Mae Otello ym mynd i mewn i'w llofft ond cyn iddi gael cyfle i egluro mae Otello yn ei thagu i farwolaeth
Mae Emilia yn rhuthro i mewn i'r ystafell, ac yn dweud wrth Otello bod Iago wedi gorfodi iddi fod yn rhan o'i gynllwyn ffiaidd, a bod popeth yn rhan o dwyll Iago. Ond mae hi'n rhy hwyr.
Mae Otello yn anobeithio am weld ei wraig ffyddlon eto, ac mae'n lladd ei hun gyda dagr.
Detholiad
[golygu | golygu cod]Teitl y gân | Clip sain | Artist |
---|---|---|
Niun mi tema (Morte d'Otello) | Francesco Tamagno | |
Ave Maria | Rosa Ponselle | |
Credo | Enrico Nani | |
Sì, pêl ciel marmoreo giuro | Enrico Caruso a Titta Ruffo |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Budden, Julian (2002). The Operas of Verdi. Vol 2: From Il trovatore to La forza del destino (2nd ed.). London: Cassell. ISBN 9780198162629
- ↑ Opera Summery & Comment Otello adalwyd 1 Hydref 2018