O! Deuwch Ffyddloniaid
Mae O! Deuwch Ffyddloniaid yn emyn Nadolig, neu garol, Cristnogol gan awdur anhysbys sy'n addasiad i'r Gymraeg o'r emyn Lladin, Adeste Fideles. Mae'n emyn rhif 463 [1] yn Caneuon Ffydd, y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001. Mae'r fersiwn Lladin gwreiddiol yn cael ei briodoli i nifer o wahanol awduron, gan gynnwys John Francis Wade (1711-1786), John Reading (1645-1692) a João IV (1640-1656), gyda'r llawysgrif gynharaf o'r emyn sy'n dwyn ei enw ef yn cael ei gadw yn llyfrgell Palas Dinesig Vila Viçosa.[2][3][4] Mae llawysgrif gan Wade, sy'n dyddio i 1751, yng ngofal Coleg Stonyhurst, Swydd Gaerhirfryn.[5] Gwaith Frederick Oakeley (1802-80), yn bennaf, yw'r cyfieithiad Saesneg adnabyddus, O come, all ye faithful. Mae'n debyg mae cyfieithiad o waith Oakeley yw'r fersiwn Gymraeg.[6]
Testun
[golygu | golygu cod]Cymraeg | Lladin | Saesneg (Oakeley) |
---|---|---|
O! Deuwch, ffyddloniaid, O! Cenwch, angylion,
Henffych, ein Ceidwad, |
Adeste fideles læti triumphantes, Deum de Deo, lumen de lumine Cantet nunc io, chorus angelorum; Ergo qui natus die hodierna. |
O come, all ye faithful, joyful and triumphant! God of God, light of light, Sing, choirs of angels, sing in exultation, Yea, Lord, we greet thee, born this happy morning; |
Tôn
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â John Francis Wade, honnwyd bod y dôn wedi ei ysgrifennu gan nifer o gerddorion. Mae rhai wedi awgrymu ei fod gan John Reading a'i fab, gan Handel neu gan Gluck. Mae eraill wedi awgrymu'r cyfansoddwyr Portiwgaleg Marcos Portugal a'r brenin João IV o Bortiwgal. Roedd Thomas Arne, yn gydnabod i Wade, a gan hynny yn gyfansoddwr posib arall.[7]
Cynhwysodd Wade y dôn yn ei gyhoeddiad ei hun Cantus Diversi (1751) heb gydnabyddiaeth i neb arall. Fe'i cyhoeddwyd eto yn rhifyn 1760 o Evening Offices of the Church. Ymddangosodd hefyd yn nhraethawd Samuel Webbe An Essay on the Church Plain Chant (1782).
-
Y dôn
Y Geiriau
[golygu | golygu cod]Cysylltiadau Jacobinaidd y Lladin
[golygu | golygu cod]Roedd John Frances Wade, awdur mwyaf tebygol yr emyn, yn aelod o'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Roedd yn byw yn alltud o Brydain Protestannaidd, wedi ffoi i Ffrainc ar ôl methiant ymgais Charles Edward Stuart, ym 1745 i ddiorseddu'r brenin Protestant Siôr II. Roedd Charles am orseddu ei dad, yr ymhonnwr Iago III & VIII. O'r 1740au i 1770au, roedd y ffurfiau cynharaf o'r carol yn ymddangos yn aml mewn llyfrau litwrgaidd Catholig Seisnig yn agos at weddïau dros yr Hen Ymhonnwr alltud. Yn llyfrau Wade, roedd yn aml wedi ei addurno â delweddau blodeuog Jacobinaidd (cefnogwyr yr ymhonwyr), fel roedd testunau litwrgaidd eraill gydag ystyrion Jacobinaidd cudd. Yr awgrym yw bod y "ffyddloniaid" yn ffyddlon i Iago yn ogystal â Christ, bod "Regem angelorum" (Brenin yr Angylion) yn fwys am "Regem Anglorum" (Brenin y Saeson neu'r Eingl) ac ati.
Cyfieithiadau i'r Saesneg
[golygu | golygu cod]Cafodd y testun ei gyfieithu i'r Saesneg nifer fawr o weithiau. Mae Wikidata Saesneg yn cynnwys 46 o gyfieithiadau o'r emyn i'r Saesneg[8] gyda'r cynharaf "Draw Near, Ye Faithful Christians" gan awdur anhysbys yn dyddio o 1760. Y cyfieithiad gan awdur gwybyddus cynharaf yw "Oh, Come, All Ye Faithful, Joyful Triumph Raising" gan Basil Wood, o 1821. Mae'r fersiwn mwyaf poblogaidd o'r emyn yn Saesneg yn gyfuniad o gyfieithiad Frederick Oakeley o'r pedwar pennill Lladin gwreiddiol ac ategiad o 3 pennill ychwanegol gwreiddiol gan Thomas Brooke a gyhoeddwyd gyntaf yn y llyfr emynau Murray's Hymnal ym 1852.[7]
Enwyd Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog ar ôl teulu Frederick Oakeley.
Addasiadau i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Fe ymddangosodd cyfieithiad gwahanol o'r emyn gan Evan Lewis yn Hymnau Hen a Newydd, 1868, sef cyfieithiad o lyfr emynau Eglwys Loegr "Hymns Ancient and Modern". Mae fersiwn mwyaf cyfarwydd yr emyn yn y Gymraeg yn ymddangos gyntaf yn "Y Caniedydd Cynulleidfaol", llyfr emynau i'r Annibynwyr a gyhoeddwyd ym 1895.[9] Mae arddull y ddwy fersiwn yn awgrymu eu bod yn gyfieithiadau o gyfieithiad Saesneg Frederick Oakely yn hytrach na chyfieithiad uniongyrchol o'r Lladin. Ym 1899 cyfieithodd y Tad John Hughes Jones, Offeiriad Catholig Caernarfon [10], yr emyn yn uniongyrchol o'r Lladin wedi i'r Eglwys Gatholig caniatáu addoli mewn ieithoedd brodorol. Ei eiriad ef ydoedd:
O, deuwch, ffyddloniaid,
Llawen orfoleddus,
O, deuwch, O, deuwch i Fethlehem.
Gwelwch yn Faban
Brenin yr Angylion,
O, deuwch ac addolwn,
O, deuwch ac addolwn,
O, deuwch ac addolwn
yr Arglwydd Iôn.[11]
Cafwyd cyfieithiadau amgen hefyd gan T. Gwynn Jones ar gyfer "Emynau Mynwy" ym 1938 a gan Ifor L Evans ar gyfer casgliad "Mawl yr Orsedd", 1951.[9]
Cyd-destun Beiblaidd
[golygu | golygu cod]Mae'r emyn yn cyfeirio at hanes genedigaeth yr Iesu a cheir yn Efengyl Luc Pennod 2:8-20, sy'n sôn am Angel yn ymddangos i fugeiliaid ac yn rhoi'r newyddion iddynt am enedigaeth Iesu Grist ym Methlehem. Wedi cyhoeddi ei newyddion ymddangosodd llu nefol yn moli Duw gan ddweud Gogoniant i Dduw yn y Goruchaf [12]
Recordiadau
[golygu | golygu cod]-
Cantorion Clwyd
-
101 o garolau a chaneuon Nadolig
-
Côr y glannau
-
Y dôn yn cael ei ganu ar organ
-
Yn Lladin gan Beniamino Gigli
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Caneuon Ffydd, Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, Gwasg Gomer 2001 rhif 450
- ↑ Stephan, Stephan (1947). "Adeste Fideles, A Study On Its Origin And Development". The Hymns and Carols of Christmas. Buckfast Abbey. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ LindaJo H. McKim (1993). "The Presbyterian Hymnal Companion". tud. 47. Westminster, John Knox Press,
- ↑ Neves, José Maria (1998). Música Sacra em Minas Gerais no século XVIII, ISSN nº 1676-7748 – nº 25
- ↑ The One Show films at Stonyhurst Archifwyd 2018-12-19 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Rhagfyr 2018
- ↑ Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru Gomer Morgan Roberts gol.; E. Wyn James gol.; Cymdeithas Emynau Cymru. Cyfrol 2; Rhif 6, 1983 adalwyd 19 Rhagfyr 2018
- ↑ 7.0 7.1 O Come All Ye Faithful Archifwyd 2012-12-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Rhagfyr 2018
- ↑ Wikisource (en), "Adeste Fideles" adalwyd 20 Rhagfyr 2018
- ↑ 9.0 9.1 Delyth G. Morgans; Cydymaith Caneuon Ffydd tud 158; Pwyllgor Caneuon Ffydd; 19 Rhagfyr 2008; ISBN 9781862250529
- ↑ Papur Dre Hydref 2010 Tud 4 CANMLWYDDIANT SANTES HELEN Archifwyd 2020-09-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Rhagfyr 2018
- ↑ "Y PABYDDION YN NGHYMRU - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1899-09-06. Cyrchwyd 2018-12-20.
- ↑ Efengyl Luc Pennod 2, fersiwn Beibl William Morgan (diwygiad 1955) adalwyd 20 Rhagfyr 2018
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Fideo YouTube o Stuart Burrows, Rebecca Evans a Bryn Terfel yn canu O! Deuwch Ffyddloniaid