Noureddine Aba
Noureddine Aba | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1921 Aïn Oulmene |
Bu farw | 19 Medi 1996 Paris |
Dramodydd a bardd yn yr iaith Ffrangeg o Algeria, a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Ffrainc, oedd Noureddine Aba (16 Chwefror 1921 – 19 Medi 1996). Canolbwyntia'i waith yn bennaf ar themâu gwleidyddol, gan gynnwys Rhyfel Algeria, y gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd, a'r Almaen Natsïaidd.
Ganed ef yn nhref Sétif, pan oedd Algeria yn rhan o diriogaeth Ffrainc. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol yn Sétif, a threuliodd flwyddyn yn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Algiers. Cychwynnodd barddoni yn ei arddegau, a chyhoeddodd ei gasgliad cyntaf, L'Aube de l'amour, ym 1941. Ym 1943, wedi ailgoncwest Algeria gan y Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd, cafodd Aba ei alw i'r fyddin a brwydrodd dros Ffrainc Rydd yn Ewrop. Fodd bynnag, wrth ddychwelyd i'w fro enedigol, cafodd ei frawychu a'i ddigio gan gyflafanau yn Sétif a threfi cyfagos, pan saethodd y gendarmes ar dorfeydd o Algeriaid brodorol a oedd yn chwifio baneri cenedlaetholgar i ddathlu Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop (8 Mai 1945). Cryfhaodd ei daliadau gwrth-drefedigaethol ei hun mewn ymateb i'r lladdfa.
Wedi'r rhyfel, gweithiodd Aba yn newyddiadurwr, ac aeth i'r Almaen i ysgrifennu adroddiadau am Dreialon Nuremberg. Ymgartrefodd yn Ffrainc, ac ysgrifennodd i'r cylchgrawn Ffrengig-Affricanaidd Présence Africaine, a sefydlwyd ym 1947. Ymdrinia'i waith ag effeithiau trais ar y ddynolryw, gan dynnu ar ei brofiadau o ormes drefedigaethol yn Algeria a throseddau'r Almaen Natsïaidd yn ogystal â'i ymatebion i wrthdrawiadau ethnig a gwleidyddol newydd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol. Er enghraifft, mae dwy o'i gasgliadau, Gazelle au petit matin a Gazelle après minuit, yn cynnwys barddoniaeth serch yn ymwneud â dau gariad a fu farw adeg annibyniaeth Algeria.[1]
Mae nifer o'i ddramâu yn ffarsiau gyda themâu gwleidyddol, gan gynnwys Tell el Zaatar s'est tu a la tombée du soir am hanes Palesteina, a L'Annonce faite à Marco, ou a l'aube et sans couronne sydd â'u stori wedi ei gosod ym Mrwydr Algiers ym 1957.
Enillodd y Prix de l'Afrique méditerranéenne ym 1979 am ei farddoniaeth, a Prix Charles Oulmont oddi ar y Fondation de France ym 1985 am ei gyfraniad i lenyddiaeth Ffrangeg. Ym 1990, sefydlodd y Fondation Noureddine Aba i hyrwyddo llenyddiaeth ei famwlad, a dyfarnir Gwobr Noureddine Aba yn flynyddol i lenor o Algeria yn ysgrifennu yn Ffrangeg neu yn Arabeg. Bu farw Noureddine Aba ym Mharis yn 75 oed.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Casgliadau o farddoniaeth
[golygu | golygu cod]- L'Aube de l'amour (1941).
- Gazelle au petit matin (1978).
- Gazelle après minuit (1979).
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Montjoie Palestine (1970).
- Tell el Zaatar s'est tu a la tombée du soir (1981).
- L'Annonce faite à Marco, ou a l'aube et sans couronne (1983).
Hunangofiant
[golygu | golygu cod]- Le chant perdu au pays retrouve (1978).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jarrod Hayes, "Aba, Noureddine" yn Encyclopedia of African Literature (Llundain: Routledge, 2003), golygwyd gan Simon Gikandi, t. 1.
- Genedigaethau 1921
- Marwolaethau 1996
- Beirdd yr 20fed ganrif o Algeria
- Beirdd Ffrangeg o Algeria
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Algeria
- Dramodwyr Ffrangeg o Algeria
- Hunangofianwyr yr 20fed ganrif o Algeria
- Hunangofianwyr Ffrangeg o Algeria
- Milwyr yr 20fed ganrif o Algeria
- Milwyr yr Ail Ryfel Byd
- Newyddiadurwyr yr 20fed ganrif o Algeria
- Newyddiadurwyr Ffrangeg o Algeria
- Pobl a aned yn Algeria
- Pobl fu farw ym Mharis