Newid cod
Math | newid |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn ieithyddiaeth mae Newid cod (hefyd: 'gymysgu cod' a 'chymysgu iaith') yn digwydd pan mae person yn defnyddio dwy (neu ragor) o ieithoedd neu ffyrdd o siarad gyda'i gilydd yn yr un sgwrs. (Gweler heyfd: Diglosia - sef newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa).
Mae 'cod' yn derm ieithyddol ar gyfer iaith.
Mae newid cod yn beth normal ac nid yw'n arwydd o ddryswch.
Mae newid cod yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, mae pobl yn wreiddiol o Dde America sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio Sbaeneg a Saesneg gyda'i gilydd. Mae pobl India hefyd yn defnyddio ieithoedd fel Hindi a Punjabi gyda Saesneg.
Yn yr un modd mae newid cod yn gyffredin iawn ymhlith siaradwyr Cymraeg.
Esiamplau o newid cod:
[golygu | golygu cod]Cofia cau'r curtains pan ti'n mynd i'r bathroom
neu
Duw, no way! Mae'r holiday insurance yn three hundred pounds!
Mae newid cod / digolsia wedi dod yn bwnc trafod yn yr Unol Dalaithau ymhlith bobl o dras Affro-Americaniadd. Maent yn teimlo o dan bwysau i 'siarad yn wyn' gan newid eu ffordd arferol o siarad wrth ddeilio gyda phobl gwynion. [1]
Mathau o newid cod
[golygu | golygu cod]- Mae 'newid cod rhyngfrawddegol' ydy'r term am berson dwyieithog sy’n defnyddio un iaith ar gyfer un frawddeg, ac iaith arall ar gyfer y frawddeg nesaf.
- Mae 'newid cod mewnfrawddegol' ydy'r term am berson dwyieithog sy’n defnyddio'r ddwy iaith o fewn yr un frawddeg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Diglosia - newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa
- Cywair Iaith - amrywiaethau yr un iaith yn ôl y cyd-destunau
- Ieithyddiaeth disgrifiadol - disgrifio’n fanwl gywir sut mae iaith yn cael ei defnyddio
- Cymraeg Clir - prosiect Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor
- Iaith macaronig - cymysgu dwy iaith neu fwy o fewn sgwrs neu lenyddiaeth
- Sosiolect - yn steil arbennig o siarad ac/neu ysgrifennu gan ddosbarth, proffesiwn neu grŵp penodol
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]https://educationalresearchtechniques.com/2017/10/06/code-switching-lexical-borrowing/
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Code-Switching: Jumping Between 2 Different Languages" - ffilm fer ar Youtube