Nablus
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 156,906 |
Pennaeth llywodraeth | Q131108248 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Nablus |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina |
Arwynebedd | 29 ±1 km² |
Cyfesurynnau | 32.2161°N 35.2661°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Q131108248 |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Mae Nablus neu, gellir sillafu fel Nablws yn yr orgraff Gymraeg (Arabeg: نابلس, Nablus næːblʊs; Hebraeg: שכם?, Šəḫem), Shechem), yn un o ddinasoedd fwyaf y Lan Orllewinol ym Mhalesteina, gyda phoblogaeth o 135,000 o drigolion (2006). Dyma brifddinas sir o'r un enw, sy'n cynnwys 56 o bentrefi ar gyfer poblogaeth gyfan o 336,380 o drigolion (yn ôl ystadegau 2006). Cafodd y ddinas ei meddiannu gan fyddin Israel yn ystod y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967. Ers 1995 daeth y ddinas o dan reolaeth llywodraeth hunanlywodraethol Awdurod Cenedlaethol Palastieina yn dilyn Cytundeb Oslo II.[1]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Lleolir Nablws tua 60 cilomedr i'r gogledd o Jerwsalem rhwng Mynydd Ebal a'r Garizim. Mae'r boblogaeth yn Arabaidd. Yn hanesyddol roedd y ddinas yn adnabyddus am gynhyrchu o wlân, olew a sebonau. Hon oedd canolfan fasnachol bwysicaf Samaria.[2].
Yn 1995, yn dilyn yr Cytuneb Oslo, fe'i rhoddwyd y ddinas o dan awdurdodaeth Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Ers hynny, yn raddol mae wedi dod yn brifddinas economaidd Palesteina. Mae hefyd yn gartref i Brifysgol Genedlaethol An-Najah.
Hanes
[golygu | golygu cod]Y Shechem hynafol
[golygu | golygu cod]Yn yr Hen Destament ymddangosodd Duw i Abraham mewn lle o'r enw "Sichem" (Aramaeg: Sicar) (Genesis 12, 6-7). Nodir hefyd y galwodd Joshua ar i ddeuddeg llwyth Israel ymgasglu yno i gadarnhau'r Cyfamod rhwng Duw a'i bobl (GS 24). Yn y ddinas honno hefyd safodd ffynnon Jacob lle cyfarfu Iesu â'r wraig Samariaid (Jn 4:23). Ymddengys fod y Shechem yma rhai cilomedrau o'r ddinas Rufeinig, "Flavia Neapolis".
Y Flavia Neapolis Rhufeinig
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y ddinas yma gan y Rhufeiniaid yn 72OC ac fe'i galwyd yn Flavia Neapolis ("dinas newydd [yr Ymerawdwr] Flavio"). Ar ôl y goresgyniad Arabaidd yn 636OC, addaswyd yr enw i نابلس (Nāblws), yn rannol oherwydd nad yw'r lythyren 'p' yn yr iaith Arabeg. Galwyd y dref yn "Neples" gan y Croesgadwyr a bu'n un o brif ddinasoedd Teyrnas Jerwsalem. Yn 1202 cafodd ei dinistrio gan y Croesgadwyr eu hunain. Ailadeiladwyd yn ddiweddarach gan yr Arabiaid.
Yn ninas Nablus mae yna lawer o henebion, gan gynnwys naw mosg (pedair eglwys Fysantaidd wedi'u trawsnewid yn fosgiau a phum mosg a adeiladwyd ar ôl y goresgyniad Arabaidd), beddrod yn dyddio'n ôl i gyfnod Ayyubid ac eglwys o'r 17g. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau yn yr Hen Ddinas yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Otomanaidd. Mae 10 baddon Twrcaidd a 30 o ffatrïoedd sebon (ابانة), gyda dim ond cwpl yn goroesi. Mae 2,850 o adeiladau hanesyddol (tai a bythynnod), 18 o henebion Islamaidd a 17 stryd.
Mae gweddillion yr oes Rufeinig i'w gweld ar ymylon yr hen ddinas. Mae rhai o henebion yr hen ddinas yn dyddio'n ôl i'r oes Fysantaidd ac i'r Croesgadau. Mae'r rhwydwaith dŵr yfed o'r cyfnod Rhufeinig ac mae wedi'i leoli o dan rai ardaloedd yn yr hen ddinas. Mae rhan o'r henebion hyn wedi cael eu hadnewyddu a'u hagor i ymwelwyr.
Yn 2000, yn ystod yr Intiffada gwrthryfel Palesteinaidd yn erbyn Israel, dinistriodd fyddin Israel 149 o gerddi ac mae wedi difrodi adeiladau tua 2000.[3]
Atyniadau Nablws
[golygu | golygu cod]Mae hynafiaeth Nablws fel tref cyn hanes ac yna oes y Rhufeiniaid, gwladychu Arabaidd, Croesgadau, Ymerodraeth Fysantaidd, Ymerodraeth yr Otomaniaid a Palesteina dan reolaeth Mandad Prydain wedi'r 1920 yn rhoi hanes cyfoethog ac amrywiol iawn i'r ddinas.
- Ffynnon Jacob
- Bedd Joseff
- Torre Manara (a adeiladwyd yn 1906)
- Palas Abd al-Hadi (19g)
- Carafanserai (15g)
- Mosg Fawr Nablus (12g)
- Mosg Hanbali (16g)
- Mosg Al-Khadra (13g)
- Mosg An-Nasr
Y Ddinas
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Poblogaeth |
---|---|
1596 | 4,300[4] |
1849 | 20,000[5] |
1860 | 15,000[6] |
1922 | 15,947[7] |
1931 | 17,181[8] |
1945 | 23,250[9][10] |
1961 | 45,768[11] |
1987 | 93,000[12] |
1997 | 100,034[13] |
2007 | 126,132[14] |
2014 | 146,493 |
Mae'r ddinas yn cynnwys y brifysgol genedlaethol "al-Najāh",[15] y brifysgol fwyaf ym Mhalesteina, sy'n gartref i swyddfa ranbarthol yr Unimed.[15] Ar hyn o bryd mae ganddo dri champws, gyda mwy na 16,500 o fyfyrwyr a 300 o athrawon. O gyfadrannau'r brifysgol, mae saith o natur ddynoliaethol a naw natur wyddonol.[16] Mae'n gartref i Lyfrgell Gyhoeddus Nablus. Mae hefyd yn gartref i farchnad stoc Palesteina a chanolfannau cwmnïau telathrebu Palesteinaidd.
Mae Nablus yn ganolfan amaethyddol ac economaidd bwysig ac mae'r ddinas yn enwog am ei sebon olew olewydd, compownd sy'n seiliedig ar sodiwm a dŵr pur,[17] yn debyg iawn i sebon Aleppo. Mae hefyd yn enwog am olew olewydd a chrefftwaith. Mae'r ddinas hefyd yn cynhyrchu dodrefn a theils, mae'n ganolfan weithgaredd yn y sectorau tecstilau a lledr, yn ogystal â chanolfan ar gyfer gwerthu da byw byw, yn enwedig gwartheg.
O amgylch y ddinas mae yna nifer o wersylloedd ffoaduriaid Palestinaidd, fel Ayn Bayt al-Mā (Ffynhonnell y Water House), Balata, Askar Vecchio a Askar Nuovo, lle mae tua 34,000 o bobl yn byw.
Cyfnewidfa Stoc Palesteina
[golygu | golygu cod]Yn 1996 sefydlwyd Cyfnewidfa Stoc Palesteina yn Nablus.[18] Yr enw Arabeg oedd "Suk al Meli al Falastini", (Cyfnewid Gwarantau Palesteinaidd) yn Saesneg Palestine Securities Exchange (PSE) , ac mae'n fenter breifat gan y Palesteiniad, Ahmad Aweidah. Cyfeirir at y mynegai stoc yn symbolaidd fel y Quds, yn yr iaith Arabeg "dinas sanctaidd" (hynny yw, Jeriwsalem). Yn 2012 daeth yn Farchnad Stoc llawn gyda 47 cwmni wedi eu rhestri a chyfalafiad ('Capitalisation') marchnad cyfunol o $2.9 biliwn.[19]
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Mae gan Nablws sawl berthynas gefeilldref tu hwnt i Balesteina:[20]
Stadt | Land |
---|---|
Khasavyurt | Rwsia |
Como | Yr Eidal |
Dundee | Y Deyrnas Unedig |
Fflorens | Yr Eidal |
Lille | Ffrainc |
Napoli | Yr Eidal |
Poznań | Gwlad Pwyl |
Rabat | Moroco |
Stavanger | Norwy |
Toscana | Yr Eidal |
Nürnberg | Almaen[21] |
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- [1] Gwefan Swyddogol
- "Welcome To The City of Nablus"
- Nablus City, "Welcome to Palestine"
- Gwefan yn esbonio'r rhesymau dros trychineb economi Palesteina
- "Nablus the Culture", adfywio bywyd diwylliannol Nablws Archifwyd 2022-04-15 yn y Peiriant Wayback
- Adfeilion Archeolegol yn Nablws
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-29. Cyrchwyd 2019-03-26. Unknown parameter
|lingua=
ignored (help); Unknown parameter|dataarchivio=
ignored (help); Unknown parameter|accesso=
ignored (help); Unknown parameter|urlmorto=
ignored (help); Unknown parameter|titolo=
ignored (|title=
suggested) (help); Unknown parameter|urlarchivio=
ignored (help); Unknown parameter|editore=
ignored (help) - ↑ Voce "Nablus", nell'opera dal titolo l'Enciclopedia. La Biblioteca di Repubblica. Mawrth 2003. ISSN 1128-4455. Unknown parameter
|editore=
ignored (help) - ↑ ICOMOS
- ↑ Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p.5.
- ↑ Doumani, Beshara. Counts in Ottoman Palestine: Nablus, circa 1850 Cambridge University Press.
- ↑ Sabbagh, Karl. (2008) Palestine: History of a Lost Nation Grove Press.
- ↑ Barron, 1923, Table IX, Sub-district of Nablus, p. 24
- ↑ Mills, 1932, p. 63
- ↑ Government of Palestine, Department of Statistics, 1945, p. 19
- ↑ Government of Palestine, Department of Statistics. Village Statistics, April, 1945. Quoted in Hadawi, 1970, p. 60
- ↑ Government of Jordan, Department of Statistics, 1964, p. 13
- ↑ Census by Israel Central Bureau of Statistics
- ↑ name="PCBSCensus">"Summary of Final Results: Population, Housing and Establishment Census-1997". Palestinian Central Bureau of Statistics (PCBS). 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-18. Cyrchwyd 2008-04-24. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwPCBS07
- ↑ 15.0 15.1 /www.najah.edu
- ↑ http://www2.najah.edu/nnu_portal/index.php?page=56&lang=en. Unknown parameter
|titolo=
ignored (|title=
suggested) (help); Unknown parameter|urlarchivio=
ignored (help); Unknown parameter|dataarchivio=
ignored (help); Unknown parameter|editore=
ignored (help); Unknown parameter|accesso=
ignored (help); Unknown parameter|urlmorto=
ignored (help); Missing or empty|title=
(help) - ↑ Si legga il seguente articolo descrittivo del sapone di Nablus: "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-26. Cyrchwyd 2019-03-26. Unknown parameter
|dataarchivio=
ignored (help); Unknown parameter|accesso=
ignored (help); Unknown parameter|urlmorto=
ignored (help); Unknown parameter|titolo=
ignored (|title=
suggested) (help); Unknown parameter|urlarchivio=
ignored (help) - ↑ http://www.pex.ps/PSEWebSite/English/Default.aspx
- ↑ https://www.reuters.com/article/palestinian-exchange-ipo/palestinian-stock-exchange-makes-market-debut-idUSL6E8F45E120120404
- ↑ Nodyn:Internetquelle
- ↑ Nürnberg International - Informationen zu den Auslandsbeziehungen der Stadt Nürnberg