Nîmes
Gwedd
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | COLNEM ![]() |
---|---|
Math | cymuned, dinas fawr ![]() |
Poblogaeth | 150,444 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Paul Fournier ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Braunschweig, Frankfurt an der Oder, Prag, Preston, Verona, Salamanca, Rishon LeZion, Meknès, Fresno, Plasencia, Córdoba, Fort Worth ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gard |
Gwlad | Ffrainc ![]() |
Arwynebedd | 161.85 km² ![]() |
Uwch y môr | 56 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Bouillargues, Caissargues, La Calmette, Caveirac, Dions, Gajan, Générac, Marguerittes, Milhaud, Parignargues, Poulx, La Rouvière, Sainte-Anastasie, Saint-Gilles, Rodilhan, Clarensac ![]() |
Cyfesurynnau | 43.8383°N 4.3597°E ![]() |
Cod post | 30000, 30900 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Nîmes ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Paul Fournier ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/01/Blason_ville_fr_N%C3%AEmes_%28Gard%29.svg/190px-Blason_ville_fr_N%C3%AEmes_%28Gard%29.svg.png)
Dinas yn ne Ffrainc yw Nîmes. Hi yw prifddinas département Gard yn region Languedoc-Roussillon. Saif heb fod ymhell o Avignon, Montpellier a Marseille. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 133,424 .
Roedd Nîmes, fel Colonia Nemausensis, yn ddinas bwysig yn y cyfnod Rhufeinig. Mae'r amffitheatr Rufeinig, Arena Nîmes, yn nodedig, tra ystyrir y Maison Carrée yr enghraifft o deml Rufeinig sydd wedi goroesi yn y cyflwr gorau. Rhyw 20 km i'r gogledd-orllewin, mae'r Pont du Gard, acwedwct oedd yn cario dŵr i'r ddinas.
Daw'r gair denim am y brethyn o "de Nîmes" ("o Nîmes").
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/France-002364_-_Square_House_%2815867600545%29.jpg/240px-France-002364_-_Square_House_%2815867600545%29.jpg)
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amffitheatr
- Eglwys gadeiriol
- Musée des Beaux-Arts de Nîmes (amgueddfa)
- Pont du Gard
Enwogion
[golygu | golygu cod]- François Guizot (1787–1874), hanesydd a gwleidydd
- Alphonse Daudet (1840–1897), nofelydd