Murmansk
Gwedd
![]() | |
![]() | |
Math | tref neu ddinas, okrug ddinesig ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 267,422 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andrey Sysoyev ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Luleå Municipality, Jacksonville, Akureyri, Minsk, Tromsø, Vadsø, Groningen, Alanya, Cuxhaven, Douarnenez, Gomel, Harbin, Pärnu ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Murmansk ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 168.14 km² ![]() |
Uwch y môr | 50 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Severomorsk Urban Okrug, Kolsky District ![]() |
Cyfesurynnau | 68.9667°N 33.0833°E ![]() |
Cod post | 183000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrey Sysoyev ![]() |
![]() | |

Dinas yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманск). Saif yn yr Arctig, ar benrhyn Kola, ac mae'n borthladd pwysig. Mae'n brifddinas Oblast Murmansk. Hi yw'r ddinas fwyaf yn yr Arctig; roedd y boblogaeth yn 2007 yn 317,500. Mae 20 swyddfa bost yn Murmansk, mae mynegai pob swyddfa yn cynnwys 6 digid ac yn dechrau gyda 183.[1]
Sefydlwyd y ddinas yn Hydref 1916 fel Romanow-na-Murmane (Романов-на-Мурмане). Yn fuan wedi Chwyldro Chwefror 1917, newidiwyd yr enw i Murmansk. Er ei bod yn yr Arctig, mae dŵr y môr yn gymharol gynnes yma, fel nad yw'r harbwr yn rhewi yn y gaeaf. Mae Murmansk a maesdref Severomorsk yn ganolfan bwysig i lynges Rwsia ac i'w llynges o longau torri rhew, yn cynnwys llongau niwclar.
- ↑ "Какой индекс у почты - Мурманск г., узнать адрес и телефон ОПС - Мурманск г." pochtaops.ru. Cyrchwyd 2025-02-24.