Minerva (cylchgrawn)
Gwedd
Math o gyfrwng | cyfnodolyn, cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1993 |
Dechrau/Sefydlu | 1993 |
Lleoliad cyhoeddi | Abertawe |
Rhanbarth | Abertawe |
Gwefan | http://www.risw.org.uk/pubs.shtml |
Dechreuwyd cyhoeddi Minerva, cylchgrawn poblogaidd Saesneg ym 1993. Mae'n cynnwys erthyglau ar bynciau hanesyddol ac artistig yn ymwneud ag Abertawe a’r cyffiniau.[1]
Fe'i cyhoeddwyd gan Sefydliad Brenhinol De Cymru a sefydlwyd yn 1835 o dan yr enw Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Abertawe.[2] Ei amcanion yw hyrwyddo astudiaethau byd natur, hanes lleol, y celfyddydau a llenyddiaeth. Ei brif weithgareddau fu sefydlu a rheoli Amgueddfa Abertawe, a chynnal darlithoedd a digwyddiadau eraill. Erbyn hyn mae’n gweithredu fel Cyfeillion Amgueddfa Abertawe.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.