Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield
Math | parc, Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.9216°N 2.7645°W |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield. Saif y warchodfa tua 15 km i’r de-ddwyrain o dref Wrecsam. Mae'n pontio'r ffin rhwng bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, a Swydd Amwythig, Lloegr; mae Fenn's Moss gerllaw Bronington ym mwrsdeisdref sirol Wrecsam; mae Whixall Moss yn Swydd Amwythig. Mae Camlas Llangollen yn mynd trwy’r warchodfa.
Cyforgors yw'r safle, a chydag arwynebedd o 575 hectar hi yw'r drydedd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Mae'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Fenn’s, Whixall, Bettisfield, Wem & Cadney Mosses, sy'n 948 hectar i gyd.
Gwelir Gylfinir, Boda tinwyn, Troellwr mawr, Tylluan gorniog, Cwtiad aur, Hebog tramor, Cudyll bach, Pibydd torchog, Cornchwiglen a Bras melyn.[1]
Mae 18 math o fwsog, Chwys yr haul, Llafn y bladur, Rhosmari gwyllt, Chwysigenddail bach, Corsfrwynen wen, Dicranum bergeri, Dicranum leioneuron a Sphagnum pulchrum. Mae hefyd Mwyaren y Berwyn, Creiglusen a Llugaeronen, Pryf gwellt, 29 math o fursen a gweision y neidr, 670 math o wyfyn a 32 math o loynnod byw. Mae nadroedd, madfallod a 166 math o adar.[2]
Mae pili-palod yn cynnwys gwibiwr llwyd a gloynnod brwmstan, a gwelir llygoden y dŵr, ystlumod, ysgyfarnogod, belaod, moch daear, llyffantod, brogaod, madfallod, nadroedd defaid, gwiberod a nadroedd y gwair.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Erthygl yn Y Naturiaethwr gan Dr J.L. Daniel Archifwyd 2011-08-09 yn y Peiriant Wayback
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y gors
-
Mawnog Whixall
-
Tir fferm o dan dŵr
-
Camlas Llangollen yn hollti'r warchodfa
-
Cornchwiglen