München
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Weltstadt mit Herz ![]() |
---|---|
Math | tref goleg, dinas fawr, residenz, metropolis, canolfan ariannol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Bavaria, local government in Germany, prif ddinas ranbarthol ![]() |
Enwyd ar ôl | mynach ![]() |
Poblogaeth | 1,510,378 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Solang der alte Peter ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Dieter Reiter ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Caeredin, Kyiv ![]() |
Nawddsant | Benno ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oberbayern ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 310.71 km² ![]() |
Uwch y môr | 519 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Isar, Isar-Werkkanal, Würm, Eisbach, Auer Mühlbach, Kleinhesseloher See, Dreiseenplatte, Kleine Isar, Nymphenburg Canal, Schwabinger Bach ![]() |
Yn ffinio gyda | Munich, Dachau, Fürstenfeldbruck, Garching bei München, Q55278376, Q55278629, Neubiberg, Oberschleißheim, Ismaning, Unterföhring, Aschheim, Feldkirchen, Haar, Putzbrunn, Unterhaching, Grünwald, Pullach, Neuried, Planegg, Gräfelfing ![]() |
Cyfesurynnau | 48.1375°N 11.575°E ![]() |
Cod post | 80331–81929, 85540 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Munich ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Dieter Reiter ![]() |
![]() | |
Cost | 6,600,000,000 Ewro ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/DEU_M%C3%BCnchen_COA.svg/150px-DEU_M%C3%BCnchen_COA.svg.png)
Dinas yn ne'r Almaen ac yn brifddinas talaith Bafaria yw München (Bafareg: Minga).
Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydedd ddinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ystyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.
Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pont dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.
Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau pêl-droed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau pêl-droed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.
Enw'r ddinas
[golygu | golygu cod]Yn Bafareg, sef iaith gynhenid Bafaria ac Awstria, enw'r ddinas yw Minga /ˈmɪŋ(ː)ɐ/, tra mai München /ˈmʏnçn̩/ yw'r enw mewn Almaeneg safonol. A hithau'n ddinas bwysig a hanes hir iddi, mae enwau arbennig iddi mewn nifer o ieithoedd Ewropeaidd, megis Munich yn y Ffrangeg a'r Saesneg, a Monachium yn y Bwyleg ac yn Lladin.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/48/Munich_skyline.jpg/250px-Munich_skyline.jpg)
Pobl enwog o München
[golygu | golygu cod]- Andreas Baader, 1943 - 1977, chwyldroadwr
- Franz Beckenbauer, ganed 1945, pêl-droediwr
- Eva Braun, 1910 - 1945, cariad Adolf Hitler
- Leon Feuchtwanger, 1884 - 1958, awdur
- Heinrich Himmler, 1900 - 1945, prif awdur yr Holocost.
- Josef Dieter 'Sepp' Maier, ganed 1944, pêl-droediwr
- Gerhard 'Gerd' Müller, ganed 1945, pêl-droediwr
- Carl Orff, 1895 - 1982, cyfansoddwr
- Franz Josef Strauß, 1915 - 1988, Arlywydd Bafaria
- Richard Strauss, 1864 - 1949, cyfansoddwr