Llyfr y Pregethwr
Gwedd
Tudalen o Lyfr y Pregethwr ym Meibl Cervera, llawysgrif Hebraeg o Gatalwnia (1299–1300). | |
Math o gyfrwng | ysgrythur, un o lyfrau'r Beibl |
---|---|
Rhan o | Megillot, Ketuvim, yr Hen Destament, Llyfrau Barddonol |
Iaith | Hebraeg |
Genre | Llên ddoethineb |
Rhagflaenwyd gan | Llyfr y Diarhebion |
Olynwyd gan | Caniad Solomon |
Yn cynnwys | Ecclesiastes 1, Ecclesiastes 2, Ecclesiastes 3, Ecclesiastes 4, Ecclesiastes 5, Ecclesiastes 6, Ecclesiastes 7, Ecclesiastes 8, Ecclesiastes 9, Ecclesiastes 10, Ecclesiastes 11, Ecclesiastes 12 |
Enw brodorol | מְגִלַּת קֹהֶלֶת |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o lyfrau'r Beibl Hebraeg a'r Hen Destament yn y Beibl Cristnogol yw Llyfr y Pregethwr (Hebraeg: Qohelet, Groeg: Ekklēsiastēs). Fe'i cynhwysir yn adran y Ketuvim yn y Beibl Hebraeg ac yn un o bum testun y Megillot ("sgroliau"). Esiampl o lên ddoethineb ydyw.
Priodolir y llyfr gan uwchnodiad y testun (1:1) i "bregethwr" neu "athro": "Geiriau yr Athro, mab Dafydd; brenin yn Jerwsalem."[1] Yn ôl y traddodiad Iddewig, y Brenin Solomon (10g CC) ydy'r awdur felly. Er hynny, ymddengys ffurfiau Aramaeg yn aml yn y testun ac mae'n debyg iddo gael ei ysgrifennu tua ail hanner y 3g CC.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pregethwr 1", beibl.net. Adalwyd ar 28 Medi 2020.
- ↑ (Saesneg) Ecclesiastes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2020.