Llwydfelyn
Colias croceus | |
---|---|
O dan yr adain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Pieridae |
Genws: | Colias |
Rhywogaeth: | C. croceus |
Enw deuenwol | |
Colias croceus (Geoffroy, 1785) | |
Cyfystyron | |
Colias croceus f. deserticola Verity, 1909 |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw llwydfelyn; yr enw lluosog ydy llwydfelynion; yr enw Saesneg yw Clouded Yellow, a'r enw gwyddonol yw Colias croceus.[1][2]
Tiriogaeth
[golygu | golygu cod]Eu tiriogaeth yw de Ewrop hyd at Twrci a'r Dwyrain Canol. Yn yr haf yn unig maen nhw'n ymfudo i Ewrop. Yng ngwledydd Prydain fe'u canfyddir ar arfordir deheuol Lloegr bron yn flynyddol ac yn achlysurol mewn mannau eraill. Maen nhw wedi'u gweld hefyd mor ogleddol â Dumfries yn Galloway yn yr Alban.
Ceir miloedd ohonynt ar adegau'n ymfudo gyda'i gilydd a gelwir y blynyddoedd hyn yn "flynyddoedd y cymylau melyn": 1877, 1947, 1983, 1992, 1994, 1996 a 2000.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Eu prif fwyd ydy is-deulu'r Faboideae e.e. meillion (Trifolium) ac Alfalfa (Medicago sativa) ac ar adegau Lotus corniculatus.
Y cylch bywyd
[golygu | golygu cod]Yn ne Ewrop a gogledd Affrica maen nhw'n bridio drwy'r flwyddyn. Mae'r wyau'n cael eu dodwy ar y dail y byddant yn eu fwyta. Fe'u dodwyir yn unigol ar y dail. yn aml maen nhw'n troi'n chwiler o fewn tua mis; ar ôl tua tair wythnos maen nhw'n deor. Ceir tair cenhedlaeth ar adegau ac fe welir yr oedolyn ar ei adain hyd at gychwyn Tachwedd.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: gloynnod byw a gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r llwydfelyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.