Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh
Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 9 Awst 1788 ![]() |
Bu farw | 1861 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Priod | Lady Emily Lygon ![]() |
Plant | Catherine Randolph ![]() |
Perchennog ystâd Castell Gwrych, ger Abergele ac Uchel Siryf Sir Ddinbych[1] yn 1828 oedd Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (1788–1861).[2]

Gellir olrhain Llwydiaid Castell Gwrych yn ôl i David Lloyd, Plas yn Gwrych yn 1608, ond Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh yw'r enwocaf o'r teulu, mae'n debyg. Ei dad oedd Robert Bamford-Hesketh o Bamford Hall ac Upton a'i fam oedd Frances Lloyd (priododd y ddau yn 1787). Yr un enw oedd i'w daid hefyd (Robert), sef etifedd ystâd Bamford. Codwyd Castell Gwrych gan Lloyd fel cartref priodasol, a cheir tystiolaeth pendant fod y Castell wedi'i orffen erbyn iddo briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch hynaf Iarll Cyntaf Beauchamp) yn 1825. Fe'i cododd hefyd fel teyrnged i Lwydiaid ochr ei fam.
Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystâd 3424 o erwau ynghyd â nifer o byllau glo yng Ngogledd Cymru.
Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Gofrestr Blynyddol 1828, cyfrol 70, tud 192 gan Edmund Burke
- ↑ www.archiveswales.org.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Rhagfyr 2014