Llinyn y bogail
Gwedd
Mewn mamaliaid sy'n dod mewn brych, mae llinyn y bogail (yn iaith y feddygaeth funiculus umbilicalis) yn bibell sy'n cysylltu'r babi yn y groth i frych y fam. Mae'n datblygu o'r un sygot â'r babi ei hun ac mae ynddo ddwy rydweli sef y rhydwelïau bogeiliol ac un wythïen sef y wythïen fogeiliol.
Mae'r wythïen fogeiliol yn cario gwaed llawn ocsgien o frych y fam i'r babi. Mae'r gwrthwyneb hefyd yn digwyd, sef fod y rhydweli fogeiliol yn cario gwaed diocsigenedig, diffygiol mewn maeth.
Mae'r croen lle câi'r llinyn ei dorri'n gadael craith a elwir yn fotwm bol.