Llanidloes Allanol
Gwedd
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 661, 612 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,719.52 ha |
Cyfesurynnau | 52.47°N 3.59°W |
Cod SYG | W04000316 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Craig Williams (Ceidwadwr) |
Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanidloes Allanol (Saesneg: Llanidloes Without). Saif i'r dwyrain, i'r gogledd ac i'r gorllewin o dref Llanidloes, ond heb gynnwys y dref ei hun. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Y Fan a nifer o aneddiadau llai. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 593.
Ceir tarddle Afon Hafren yng ngogledd-orllewin y gymuned. Yn y 19g roedd mwyngloddio plwm yn bwysig yma. Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o Lyn Clywedog, gan gynnwys yr argae, yr uchaf yng ngwledydd Prydain.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.