Live 8
Enghraifft o'r canlynol | benefit concert |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2005 |
Enw brodorol | Live 8 |
Gwefan | http://www.live8live.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Live 8 yn gyfres o gyngherddau codi arian a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2005 yng ngweledydd y G8 ac yn Ne Affrica. Cafodd y cyngherddau eu hamseru i gyd-fynd â Chynhadledd G8 a gynhaliwyd yng Ngwesty Gleneagles yn Auchterrarder, yr Alban, 6–8 Gorffennaf 2005. Roedd y cyngherddau hefyd yn cyd-fynd ag ugain mlynedd ers ers Live Aid. Cafodd y cyngherddau eu cynnal er mwyn cefnogi'r ymgyrch Brydeinig Make Poverty History a'r Global Call for Action Against Poverty. Bwriad i sioeau oedd i roi pwysau ar arweinwyr y byd i waredu'r dyled sydd gan wledydd tlotaf y byd, i gynyddu a gwella'r cymorth a gynigir iddynt ac i negydu rheolau masnach deg er lles y gwledydd tlotaf. Cynhaliwyd deg cyngerdd wahanol ar yr un pryd ar 2 Gorffennaf ac un ar 6 Gorffennaf. Ar 7 Categori:Dylunwyr ffasiwn o, cytunodd arweinwyr y G8 i ddyblu lefelau 2004 o gymorth i wledydd tlawd o $25 biliwn doler Americanaidd i $50 biliwn doler Americanaidd. Roedd hanner yr arian i fynd i Affrica.
Perfformiodd dros 1,000 o gerddorion yn y cyngherddau a chafodd Live 8 ei ddarlledu ar 182 o rwydweithiau teledu ac ar 2,000 o rwydweithiau radio.
Cyhoeddodd trefnydd Live Aid a Band Aid Bob Geldof y digwyddiad ar Fai 31ain. Cynigiodd nifer o artistiaid a berfformiodd yn Live Aid eu gwasanaethau i'r achos.