Leonard Hobhouse
Leonard Hobhouse | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1864 St Ive |
Bu farw | 21 Mehefin 1929 Alençon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cymdeithasegydd, academydd, athronydd, gwyddonydd gwleidyddol |
Cyflogwr | |
Tad | Reginald Hobhouse |
Mam | Caroline Salusbury-Trelawny |
Priod | Nora Hadwen |
Plant | Reginald Oliver Hobhouse, Leonora Hobhouse, Marjorie Berta Hobhouse |
Cymdeithasegydd, damcaniaethwr gwleidyddol, ac athronydd rhyddfrydol o Loegr oedd Leonard Trelawny Hobhouse (8 Medi 1864 – 21 Mehefin 1929).[1]
Ganed ym Mhorth Ia, Cernyw. Aeth i Goleg Corpus Christi, Rhydychen, ym 1883, ac wedi iddo dderbyn ei radd dechreuodd addysgu yno ym 1887. Fe'i etholwyd yn gymrawd yng Ngholeg Corpus Christi ym 1894. Symudodd o Rydychen i Fanceinion ym 1897 a gweithiodd i bapur newydd The Manchester Guardian dan olygyddiaeth C. P. Scott. Ymddiswyddodd o'i orchwyl parhaol i'r Guardian ym 1902, ond cyfrannodd yn achlysurol at y cyhoeddiad hwnnw am flynyddoedd lawer. Cyfrannodd at gylchgronau rhyddfrydol, radicalaidd, gan gynnwys The Nation, a bu'n olygydd gwleidyddol y Tribune o 1905 i 1907.
Gwasanaethodd Hobhouse yn ysgrifennydd yr Undeb Masnach Rydd o 1903 i 1905, a bu'n dyfarnu ar sawl anghydfod diwydiannol. Ym 1907 penodwyd Hobhouse i Gadair Gymdeithaseg Martin White yn Ysgol Economeg Llundain, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes. Bu farw yn Alençon, yng ngogledd-orllewin Ffrainc, yn 64 oed.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Labour Movement (Llundain: T. Fisher Unwin, 1893).
- The Theory of Knowledge: A Contribution to Some Problems of Logic and Metaphysics (Llundain: Methuen & Co., 1896).
- Mind in Evolution (Llundain: Macmillan and Co., 1901).
- Democracy and Reaction (Llundain: T. Fisher Unwin, 1904).
- Morals in Evolution: A Study in Comparative Ethics, Part I (Llundain: Chapman and Hall, 1906).
- Morals in Evolution: A Study in Comparative Ethics, Part II (Llundain: Chapman and Hall, 1906).
- Liberalism (Llundain: Williams and Norgate, 1911).
- Social Evolution and Political Theory (Efrog Newydd: The Columbia University Press, 1911).
- Development and Purpose: An Essay Towards a Philosophy of Evolution (Llundain: Macmillan and Co., 1913).
- The Material Culture and Social Institutions of the Simpler Peoples: An Essay in Correlation (Llundain: Chapman & Hall, 1915). Gyda G. C. Wheeler a M. Ginsberg.
- Questions of War and Peace (Llundain: T. Fisher Unwin, 1916).
- Cyfres The Principles of Sociology:
- The Metaphysical Theory of the State: A Criticism (Llundain: George Allen & Unwin, 1918).
- The Rational Good: A Study in the Logic of Practice (Llundain: George Allen & Unwin, 1921).
- The Elements of Social Justice (Efrog Newydd: Henry Holt and Company, 1922).
- Social Development: Its Nature and Conditions (Llundain: George Allen & Unwin, 1924).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Leonard Trelawny Hobhouse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2020.
- Genedigaethau 1864
- Marwolaethau 1929
- Academyddion y 19eg ganrif o Loegr
- Academyddion yr 20fed ganrif o Loegr
- Academyddion Coleg Corpus Christi, Rhydychen
- Academyddion Ysgol Economeg Llundain
- Athronwyr y 19eg ganrif o Loegr
- Athronwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Athronwyr gwleidyddol o Loegr
- Cymdeithasegwyr o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Corpus Christi, Rhydychen
- Pobl a aned yng Nghernyw
- Pobl fu farw yn Ffrainc
- Rhyddfrydwyr o Loegr
- Ysgolheigion Saesneg o Loegr