Leo Varadkar
Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found. Gwleidydd Gwyddelig a meddyg yw Leo Eric Varadkar (ganwyd 18 Ionawr 1979) oedd yn arweinydd Fine Gael rhwng 2017 a 2024. Drwy gytundeb clymbleidiol daeth yn Brif Weinidog Iwerddon a Gweinidog Amddiffyn rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2020 cyn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog rhwng Mehefin 2020 a Rhagfyr 2022. Ailgymerodd swydd y Prif Weinidog yn Rhagfyr 2022 ond ymddiswyddodd yn Mawrth 2024.[1]
Fe'i ganwyd yn Ysbyty Rotunda, Dulyn, yn fab i'r meddyg Ashok Varadkar o Mumbai a'i wraig Miriam (née Howell) oedd yn nyrs. Cyfarfu eu rhieni tra'n gweithio yn Slough yn Lloegr. Er bod ei dad yn Hindŵ, magwyd ef yn Gatholig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.
Mae'n aelod o blaid Fine Gael, plaid a ystyrir yn fwy asgell dde a mwy cymodlon at gyd-weithio â'r Deyrnas Unedig, na'r blaid fawr arall, Fianna Fail.
Roedd yn gefnogwr brwd dros gyfreithloni priodas hoyw yn y refferendwm yn newid Cyfansoddiad Iwerddon yn 2015.[2]
Etholwyd ef yn Taoiseach (Prif Weinidog) Iwerddon ym mis Mehefin 2017. Ef oedd y Taoiseach gyntaf i fod o dras Indiaidd ac yn agored hoyw. Cafodd ei ddewis i fod yn Ddirprwy Prif Weinidog ar ôl i etholiad Dáil Éireann, 2020, achosi trafodaethau clymbleidiol rhwng Fianna Fail, Fine Gael a'r Gwyrddion. Mi fydd llywodraeth Micheál Martin yn arwain am dymor o 1 flynedd ac hanner, wedyn bydd Varadkar yn cymryd yr awenau fel Taoiseach eto am weddill y tymor.[3][4]
Ymddiswyddodd yn annisgwyl ar 20 Mawrth 2024 gan ddweud "Ar ôl saith mlynedd yn y swydd, dydw i ddim yn teimlo mai fi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon bellach". Bydd yn parhau fel Prif Weinidog nes i Taoiseach newydd gael eu hethol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gweriniaeth Iwerddon: Y Taoiseach Leo Varadkar yn camu o'r neilltu". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-24. Cyrchwyd 2024-03-24.
- ↑ https://www.irishtimes.com/news/politics/leo-varadkar-i-wanted-to-be-an-equal-citizen-and-today-i-am-1.2223688
- ↑ O'Halloran, Marie. "The Fine Gael members who are in the new cabinet". Irish Times (yn Saesneg).[dolen farw]
- ↑ "Disgwyl mai Micheal Martin fydd arweinydd newydd Iwerddon". Golwg360.