Legio II Augusta
Enghraifft o'r canlynol | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Hispania Tarraconensis |
Gwladwriaeth | Rhufain hynafol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Legio II Augusta yn Lleng Rufeinig a ffurfiwyd gan Gaius Vibius Pansa Caetronianus yn 43 CC, Bu'r lleng yng Nghaerllion (Isca Silurum) am gyfnod hir, efallai tan ddechrau'r 4g. Ei symbolau oedd y Capricornus, Pegasus a Mawrth.
Ffurfiwyd y lleng gan Octavianus (Augustus yn nes ymlaen) a'r conswl Gaius Vibius Pansa Caetronianus yn 43 CC, i ymladd yn erbyn Marcus Antonius. Ymladdodd yr II Augusta ym Mrwydr Philippi a brwydr Perugia. Ar ddechrau teyrnasiad Augustus yn 25 CC, symudwyd y lleng i Sbaen i ymladd yn y Rhyfeloedd Cantabraidd, a bu'n gwersylla yn nhalaith Hispania Tarraconensis. Pan ddinistriwyd llengoedd XVII, XVIII a XIX ym Mrwydr y Teutoburgerwald yn 9 O.C., symudwyd yr II Augusta i Germania, efallai i ardal Mainz. Wedi 17, roedd yn Argentorate (Strasbourg heddiw).
Cymerodd y lleng ran yn yr ymosodiad ar Brydain yn 43 yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Claudius. Legad y lleng ar y pryd oedd Vespasian, fyddai'n dod yn ymerawdwr yn nes ymlaen. Bu'n ymladd yn erbyn y Durotriges yng ngorllewin Lloegr. Yn 48 adeiladwyd caer i'r lleng yn Isca Dumnoniorum (Exeter heddiw). Oherwydd ei buddugoliaethau dan Vespasian, ystyrid yr II Augusta yn un o'r llengoedd gorau, er iddi gael ei gorchfygu gan y Silwriaid yn 52. Yn ystod gwrthryfel Buddug (Boudica) roedd ei legad yn absennol pan alwyd arni i ymuno â byddin Gaius Suetonius Paulinus. Y praefectus castrorum ("pennaeth y gwersyll") oedd y swyddog uchaf, a gwrthododd ufuddhau i orchymyn Suetonius. Yn ddiweddarach, wedi i Suetonius orchfygu Buddug, lladdodd ei hun.
Rhwng 66 a 74 roedd y lleng yn Glevum (Caerloyw heddiw), yna symudodd i Isca Silurum (Caerllion heddiw), lle'r adeiladwyd caer. Yn 122, bu'r II Augusta yn cynorthwyo i adeiladu Mur Hadrian. Yn 196 cefnogodd lywodraethwr Prydain Clodius Albinus, oedd yn ceisio ei wneud ei hun ym ymerawdwr. Gorchfygwyd Albinus gan Septimius Severus. Yn ddiweddarch daeth Severus i Brydain i ymladd yn erbyn y llwythau Albanaidd, a symudwyd y lleng i Carpow am gyfnod. Dan fab Severus, yr ymerawdwr Caracalla derbyniodd y lleng yr enw ychwanegol "Antonina" fel cydnabyddiaeth o'i gwasanaeth iddo ef a'i dad. Dychwelodd i Gaerllion yn nheyrnasiad Alexander Severus.