Joseph Smith
Joseph Smith | |
---|---|
Ganwyd | 23 Rhagfyr 1805 Sharon |
Bu farw | 27 Mehefin 1844 Carthage |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | proffwyd, gwleidydd, diwinydd |
Adnabyddus am | Llyfr Mormon, Doctrine and Covenants, Pearl of Great Price |
Prif ddylanwad | Sidney Rigdon, Oliver Cowdery |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr, Council of Fifty |
Tad | Joseph Smith, Sr. |
Mam | Lucy Mack Smith |
Priod | Emma Smith, Eliza Maria Partridge Lyman, Eliza R. Snow, Zina D. H. Young, Emily Dow Partridge, Lucinda Morgan Harrisová, Helen Mar Kimball, Sarah Ann Whitney |
Plant | Julia Murdock Smith, Joseph Smith III, Alexander Hale Smith, David Hyrum Smith |
Perthnasau | Jesse N. Smith, Joseph F. Smith |
Gwefan | https://josephsmith.net, https://www.josephsmithpapers.org/ |
llofnod | |
Sefydlydd Mudiad Saint y Dyddiau Diwethaf oedd Joseph Smith, Jr. (23 Rhagfyr 1805 – 27 Mehefin 1844), a elwir hefyd yn Formoniaeth. Roedd yn ffigwr crefyddol a gwleidyddol o bwys yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1830au a'r 1840au. Ym 1827, dechreuodd Smith gasglu dilynwyr crefyddol wedi iddo ddweud fod angel wedi dangos set o blatiau aur iddo yn disgrifio hanes Iesu i bobloedd brodorol yr Amerig. Ym 1830, cyhoeddodd Smith Llyfr Mormon, sef yr hyn a honai ei fod yn gyfieithiad o'r platiau hynny, a'r un flwyddyn sefydlwyd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.
Bu Smith yn byw yn Kirkland, Ohio, trwy ran helaeth y 1830au, a dyma lle arhosodd pencadlys yr eglwys hyd iddo gael ei ysgogi gan gost adeiladu teml fawr, methiant arianol, a gwrthdaro gyda aelodau oedd wedi eu di-affeithio i gasglu anheddiad Saint y Dyddiau Diwethaf ym Missouri. Yno, dwysáodd y tensiwn rhwng y Mormoniaid ac eraill gan arwain at Ryfel Mormon 1838. Wedi hyn, symudodd Smith a'i ddilynwyr i Nauvoo, Illinois, lle dechreuont adeiladu ail deml gyda chymorth bobl o Ewrop oedd newydd gael eu trosi i'r grefydd. Wedi iddo gael ei gyhuddo o ymarfer amlwreicaeth, ac o geisio creu theocrataeth, annogodd Smith ataliad papur newydd a oedd wedi cyhoeddi'r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan arwain at ei lofruddiaeth gan dorf o rhai nad oedd yn Formoniaid.
Mae dilynwyr Smith yn ystyried ei fod yn broffwyd, ac wedi canoneiddio rhai o'i ddatguddiadau fel ysgrifau sanctaidd cyfwerth â'r Beibl. Mae ei gymun yn cynnwys sawl enwad crefyddol; y mwyaf o'r rheiny yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, sydd â miliynau o ymlynwyr.[1]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-04. Cyrchwyd 2009-06-16.
- Genedigaethau 1805
- Marwolaethau 1844
- Arweinwyr crefyddol o'r Unol Daleithiau
- Crefydd yn yr Unol Daleithiau yn y 19eg ganrif
- Gwleidyddion y 19eg ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llofruddiaethau'r 1840au yn yr Unol Daleithiau
- Mormoniaeth
- Pobl a aned yn Vermont
- Pobl fu farw yn Illinois
- Pobl o'r Unol Daleithiau o dras Seisnig