Neidio i'r cynnwys

John Humphrys

Oddi ar Wicipedia
John Humphrys
Ganwyd17 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Y Sblot Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodValerie Sanderson Edit this on Wikidata

Awdur, newyddiadurwr a chyflwynydd radio a theledu o Gymru yw Desmond John Humphrys (ganwyd 17 Awst 1943). O 1981 i 1987 roedd yn brif gyflwynydd Newyddion Naw o'r Gloch, prif raglen newyddion Prydeinig y BBC. Rhwng 1987 a 2019 roedd yn cyflwyno rhaglen arobryn BBC Radio 4, Today. Ers 2003 mae wedi bod yn gyflwynydd y cwis teledu "anoddaf un" – Mastermind.

Mae gan Humphrys enw da fel cyfwelydd dygn a phlaen; o bryd i'w gilydd mae gwleidyddion wedi bod yn feirniadol iawn o'i arddull ar ôl cael eu cyfweld yn llym ganddo ar radio a theledu byw.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Cafodd Humphrys ei eni yn Pearl Street, Sblot, Caerdydd yn fab i Edward George Humphrys, Cwyrydd Ffrenig, a Winifred Mary (cynt Matthews), triniwr gwallt. Roedd yn un o bump o blant. Brawd iddo oedd Bob Humphrys gohebydd chwaraeon BBC Cymru.[2]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd gan adael yr ysgol yn 15 oed i gychwyn gyrfa yn y byd newyddiadurol.

Ar ôl gadael yr ysgol cafodd ei benodi'n ohebydd dan hyfforddiant ar y Penarth Times cyn cael ei benodi yn gyw ohebydd ar y Western Mail ac yna'n ohebydd teledu ar TWW. Ymunodd â'r BBC ym 1966 fel gohebydd rhanbarthol Lerpwl a gogledd orllewin Lloegr, cyn cael ei ddyrchafu'n ohebydd tramor. Fel gohebydd tramor fu'n gyfrifol am ohebu'r newyddion am ymddiswyddiad Richard Nixon o arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Ym 1981 daeth yn brif angor rhaglen Newyddion Naw y BBC gan gadw'r swydd hyd 1987 pan gafodd ei benodi'n brif gyflwynydd rhaglen newyddion Today ar Radio 4 fel olynydd i John Timpson. O 1993 hyd 2003 bu'n gyflwynydd y rhaglen deledu On The Record [3] Cyhoeddodd yn Chwefror 2019 y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno Today gan ddweud y dylai fod wedi gadael "flynyddoedd yn ôl". Darlledodd ei sioe olaf ar fore 19 Medi 2019.[4]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Devil's Advocate (Llundain: Arrow Books, 2000)
  • The Great Food Gamble (Llundain: Coronet Books, 2002)
  • Lost For Words: The Mangling and Manipulating of the English Language (Llundain: Hodder & Stoughton, 2004)
  • Beyond Words: How Language Reveals the Way We Live Now (Llundain: Hodder & Stoughton, 2006)
  • In God We Doubt: Confessions of a Failed Atheist (Llundain: Hodder & Stoughton, 2007)
  • Blue Skies & Black Olives (Llundain: Hodder & Stoughton, 2009)
  • (gyda Sara Jarvis) The Welcome Visitor: Living Well, Dying Well (Llundain: Hodder & Stoughton, 2009)
  • A Day Like Today: Memoirs (Llundain: William Collins, 2019)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [1] Archifwyd 2015-03-03 yn y Peiriant Wayback Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 16 Mai 2015
  2. ‘HUMPHRYS, John’, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Tachwedd 2014 Adalwyd 16 Mai 2015
  3. Gwefan www.bbc.co.uk; Archifwyd 2015-03-03 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Mai 2015
  4.  John Humphrys yn beirniadu gwleidyddion sy’n osgoi cyfweliadau. Golwg360 (19 Medi 2019).