Johann Gottfried von Herder
Johann Gottfried von Herder | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1744 Morąg |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1803 Weimar |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, bardd, cyfieithydd, llenor, beirniad llenyddol, ysgolhaig llenyddol, gohebydd gyda'i farn annibynnol, esthetegydd |
Adnabyddus am | Sculpture, Stimmen der Völker in Liedern, Treatise on the Origin of Language |
Prif ddylanwad | Immanuel Kant, Baruch Spinoza, Giordano Bruno, Gottfried Wilhelm Leibniz, Johann Georg Hamann |
Mudiad | Yr Oleuedigaeth, cenedlaetholdeb rhamantaidd |
Priod | Caroline Herder |
Plant | Siegmund August Wolfgang von Herder, Carl Adelbert von Herder, Luise Stichling, Emil Gottfried von Herder |
Athronydd, diwinydd, a beirniad o'r Almaen oedd Johann Gottfried von Herder (25 Awst 1744 – 18 Rhagfyr 1803) a oedd yn brif feddyliwr y mudiad Sturm und Drang ac yn ffigur blaenllaw yn yr Oleuedigaeth yn y gwledydd Almaeneg. Cafodd ddylanwad pwysig ar ddechrau'r cyfnod Rhamantaidd, a fe'i ystyrir yn gyfrifol am hebrwng damcaniaethau esthetaidd a llenyddol Johann Wolfgang von Goethe, y brodyr Schlegel, a'r brodyr Grimm, athroniaeth iaith Wilhelm von Humboldt, athroniaeth hanes G. W. F. Hegel, epistemoleg Wilhelm Dilthey, anthropoleg Arnold Gehlen, a syniadaeth wleidyddol y cenedlaetholwyr Slafaidd.
Bywyd cynnar ac addysg (1744–64)
[golygu | golygu cod]Ganed Johann Gottfried Herder ar 25 Awst 1744 ym Mohrungen, Dwyrain Prwsia (bellach Morąg, Gwlad Pwyl), i deulu tlawd. Mynychodd yr ysgolion lleol cyn iddo gychwyn astudio diwinyddiaeth, athroniaeth, a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Königsberg yn haf 1762. Yno, bu'n gyfeillgar ag Immanuel Kant, yr un a sefydlai athroniaeth feirniadol, a'r afresymolwr Johann Georg Hamann, un o brif feirniaid yr Oleuedigaeth.[1]
Teithiau (1764–70)
[golygu | golygu cod]Aeth Herder i Riga, Ymerodraeth Rwsia, yn Nhachwedd 1764 i addysgu ac i bregethu. Yno cyhoeddodd ei weithiau cynharaf, gan gynnwys dau gasgliad o ddernynnau, yr un ar bwnc llenyddiaeth Almaeneg (Über die neuere deutsche Literatur: Fragmente; 1767) a'r llall, yn ddienw, am athroniaeth iaith (Kritische Wälder, oder Betrachtungen die Wissenschaft und Kunst des Schönen betreffend; 1769 a 1846). Yn haf 1769 ymddiswyddodd Herder ac aeth ar fordaith o Riga i Nantes, ac mae ei gofiant o'i brofiad, Journal meiner Reise im Jahr 1769, a gyhoeddwyd ym Mharis yn Rhagfyr 1769, yn destun i bwysigrwydd y cyfnod hwn yn natblygiad ei feddwl.[1]
Teithiodd i Strasbwrg ym Medi 1770 yng nghwmni 'r Tywysog Peter Friedrich Ludwig von Holstein, ac yno cyfarfu â sgolor ifanc o'r enw Johann Wolfgang Goethe, a gafodd ei ysbrydoli i astudio llenyddiaeth gan sylwadau Herder ar waith Homeros, Pindar, Shakespeare, a barddoniaeth y werin.[1] Erbyn hyn roedd Herder yn ennill enw iddo'i hun ymhlith deallusion yr Almaen, a derbyniodd wobr oddi ar Academi Berlin ym 1771 am ei draethawd Abhandlung über den Ursprung der Sprache.[2]
Bückeburg (1771–76)
[golygu | golygu cod]Ymsefydlodd Herder yn Bückeburg yn Ebrill 1771, yn bregethwr y llys yng ngwasanaeth Iarllaeth Schaumburg-Lippe.
Weimar (1776–1803)
[golygu | golygu cod]Penodwyd Herder ym 1776 yn Uwcharolygydd Cyffredinol yr Eglwys Lwtheraidd yn Weimar, Saxe-Weimar, a bu'n dal y swydd honno am weddill ei oes.[2]
Rhoddwyd y teitl von iddo ym 1802. Bu farw Johann Gottfried von Herder ar 18 Rhagfyr 1803 yn 59 oed yn Weimar.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Johann Gottfried von Herder. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Hydref 2020.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Michael Forster, "Johann Gottfried von Herder" yn Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford, 2017). Adalwyd ar 14 Hydref 2020.