Jiwdo
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5a/Jigoro_Kano_and_Kyuzo_Mifune.jpg/220px-Jigoro_Kano_and_Kyuzo_Mifune.jpg)
Crefft ymladd o Japan ydy Jiwdo. Mae'r term yn golygu "ffordd addfwyn" yn Japaneg. Crëwyd y grefft ym 1882 gan Dr Kano Jigoro. Ei nodwedd amlycaf yw'r elfen gystadleuol, lle mae cystadleuwyr naill ai'n cael eu taflu, eu rhwystro rhag symud neu eu gorfodi i ildio gan y gwrthwynebydd. Mae taro a hyrddio gan ddefnyddio dwylo a thraed yn ogystal ag arfau hunan-amddiffyn hefyd yn rhan o jiwdo, ond dim ond mewn gornestau penodol (kata). Ni chânt eu caniatau mewn cystadlaethau jiwdo neu ymarferion rhydd (randori).
Teuluoedd o dechnegau
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/06/Cardiff_Judo_Group_%2816684256208%29.jpg/220px-Cardiff_Judo_Group_%2816684256208%29.jpg)
- Nage waza - taflu'r gwrthwynebydd
- Osaekomi waza - pinio'r gwrthwynebydd i lawr
- Kansetsu waza - cloi penelin y gwrthwynebydd yn boenus i gael ymostyngiad
- Shime waza - tagu'r gwrthwynebydd i gael ymostyngiad