Ian Smith
Ian Smith | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1919 Shurugwi |
Bu farw | 20 Tachwedd 2007 o clefyd serebro-fasgwlaidd Tref y Penrhyn |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Rhodesia, Simbabwe |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr |
Swydd | Prif Weinidog Rhodesia, Member of the National Assembly of Zimbabwe |
Plaid Wleidyddol | Southern Rhodesia Liberal Party, United Federal Party, Rhodesian Front, Republican Front |
Priod | Janet Smith |
Plant | Alec Smith |
Perthnasau | Alex T. Wolf |
llofnod | |
Prif weinidog Rhodesia (yn awr Simbabwe) oedd Ian Douglas Smith (8 Ebrill 1919 – 20 Tachwedd 2007),
Ganed Smith yn Selukwe, De Rhodesia. Bu yn Brif Weinidog gwladwriaeth Brydeinig De Rhodesia o 13 Ebrill 1964 hyd 11 Tachwedd 1965, pan gyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol heb gytundeb Prydain. O'r dyddiad hwnnw hyd 1 Mehefin 1979 roedd yn Brif Weinidog Rhodesia.
Dim ond y boblogaeth wyn oedd yn cael pleidleisio yn yr etholiadau. Rhwng 1971 a 1979 bu llywodraeth Smith yn ymladd yn erbyn cenedlaetholwyr duon, a daeth hefyd dan bwysau economaidd gan y gorllewin, nad oedd yn derbyn annibyniaeth Rhodesia. Yn 1979 daeth y ddwy ochr i gytundeb, ac ymddiswyddodd Smith fel Prif Weinidog. Olynwyd ef gan lywodraeth yn cynnwys y duon a'r gwynion, dan arweiniad Abel Muzorewa o'r UANC. Yn etholiad 1980 enillodd ZANU fwyafrif a daeth Robert Mugabe yn Brif Weinidog. Parhaodd Smith yn aelod o senedd Simbabwe hyd 1987. Bu farw yn Ne Affrica.