Hemisffer cerebrol
Enghraifft o'r canlynol | half, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | segment of forebrain, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | cerebrwm |
Yn cynnwys | Frontal Lobe, Llabed parwydol, Temporal Lobe, Occipital Lobe, Limbic Lobe, Insula |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r ddau hanner (rhan de a rhan chwith) o'r ymennydd yw hemisffer cerebrol. Mae'r ddau hemisfferau yn strwythurau lled gymesurol sy'n gysylltiedig â'i gilydd gan ffibrau nerf[1].
Strwythur
[golygu | golygu cod]Mae gan y ddau hemisffer cerebrol haen allanol o gortecs cerebrol sydd wedi ei wneud o fater llwyd. Tu mewn i'r hemisfferau mae haen fewnol neu graidd o fater gwyn a elwir yn semiovale centrum. Mae rhan fewnol y hemisfferau cerebrol yn cynnwys y fentriglau ochrol, y cnewyllyn sylfaenol, a'r mater gwyn[2].
Mae'r hemisfferau cerebrol yn cael eu gwahanu'n rhannol oddi wrth ei gilydd gan rych ddofn o'r enw'r hollt hydredol. Ar waelod yr hollt hydredol mae band trwchus o fater gwyn o'r enw'r corpus callosum. Mae'r corpus callosum yn darparu cyswllt cyfathrebu rhwng rhanbarthau cyfatebol yr hemisfferau cerebrol.
Swyddogaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r hemisfferau cerebrol yn cyflenwi swyddogaeth modur i'r ochr cydgyferbyniol y corff y mae'n derbyn mewnbwn synhwyraidd ohono[3]. Mae'r hemisffer chwith yn rheoli hanner de'r corff, ac mae'r hemisffer de yn rheoli ochr chwith y corff. Mae'r ddau hemisffer hefyd yn cael ysgogiadau sy'n cyfleu synhwyrau cyffwrdd a gweled, yn bennaf o hanner cyfarpar y corff, tra bod mewnbwn clywedol yn dod o'r ddwy ochr. Mae llwybrau sy'n cyfleu synhwyrau arogl a blas i'r cortecs cerebrol eu hunain yn gyfochrog (hynny yw, nid ydynt yn croesi i'r hemisffer arall).
Er gwaethaf y trefniant hwn, nid yw'r hemisfferau cerebrol yn weithredol gyfartal. Ym mhob unigolyn, mae un hemisffer yn flaenllaw. Mae'r hemisffer dominyddol yn rheoli iaith, swyddogaethau mathemategol a dadansoddol, a chyflawnder. Mae'r hemisffer arall yn rheoli cysyniadau gofodol syml, adnabod wynebau, rhai agweddau clywedol, ac emosiwn[4].
Arwyddocâd clinigol
[golygu | golygu cod]Fel triniaeth ar gyfer epilepsi, gall y corpus callosum gael ei dorri i rwystro'r prif gysylltiad rhwng yr hemisfferau mewn gweithdrefn a elwir yn ffososotomi corpus.
Mae hemisfferctomi yn cael gwared neu'n analluogi un o'r hemisfferau. Gweithdrefn brin yw hon a ddefnyddir mewn rhai achosion eithafol o atafaeliadau nad ydynt yn ymateb i driniaethau eraill.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Encyclopædia Britannica Human nervous system adalwyd 29 Ionawr 2018
- ↑ Snell, Richard S. (2009). Clinical Neuroanatomy (Clinical Neuroanatomy for Medical Students (Snell)). Hagerstwon, MD: Lippincott Williams & Wilkins. p. 262. ISBN 0-7817-9427-7
- ↑ Med Health Glossary Cerebral Hemispheres adalwyd 29 Ionawr 2018
- ↑ Cerebromente The Cerebral Hemispheres Archifwyd 2018-02-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 29 Ionawr 2018