Harfleur
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 8,315 |
Gefeilldref/i | Bramsche, Lindow (Mark), Rollo Department |
Daearyddiaeth | |
Sir | canton of Gonfreville-l'Orcher, Seine-Maritime, arrondissement of Havre |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 4.21 km² |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 89 metr |
Yn ffinio gyda | Le Havre, Montivilliers, Gonfreville-l'Orcher |
Cyfesurynnau | 49.5067°N 0.1981°E |
Cod post | 76700 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Harfleur |
Tref a chymuned ger arfordir gogleddol Ffrainc yw Harfleur. Saif yn département Seine-Maritime, yn y Pays de Caux, ger aberoedd afon Seine ac afon Lézarde, a tua 10 km i'r dwyrain o Le Havre. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 8,602.
Ar un adeg, roedd Harfleur yn borthladd pwysig iawn. Yn y cyfnod Rhufeinig, adnabyddid ef fel Caracotinum, prif borthladd yr hen Calates, ac roedd ffordd Rufeinig yn arwain oddi yma i Troyes. Adeiladwyd muriau'r dref yn 1341-1361. Yn 1415, cipiwyd y dref gan Harri V, brenin Lloegr, ond yn 1435, gwrthryfelodd poblogaeth Caux yn erbyn y Saeson dan arweiniad Jean de Grouchy, a gallasant adfeddiannu Harfleur wedi i 104 o'r trigolion agor pyrth y dref iddynt.
Yn y 16g, decheuodd pwysigrwydd y porthladd leihau, a chymerodd Le Havre ei le fel prif borthladd gogledd-orllewin Ffrainc.