Neidio i'r cynnwys

Gwyn Jones (awdur)

Oddi ar Wicipedia
Gwyn Jones
Ganwyd24 Mai 1907 Edit this on Wikidata
Coed-duon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd, hanesydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOrder of the Falcon, CBE Edit this on Wikidata

Awdur, cyfieithydd ac ysgolhaig o Gymru oedd Gwyn Jones (24 Mai 19076 Rhagfyr 1999). Roedd yn arbenigo yn hanes a llenyddiaeth y gwledydd Llychlynnaidd. Ganed ef ym mhentref Tredegar Newydd, yn awr ym mwrdeisdref sirol Caerffili.

Cyfieithodd nifer o weithiau i'r Saesneg, yn cynnwys Four Icelandic Sagas (1935), The Vatndalers' Saga (1944), The Mabinogion (1948), Egil's Saga (1960), Eirik the Red and Other Icelandic Sagas (1961) a The Norse Atlantic Saga (1964). Ysgrifennodd A History of the Vikings (1968) a Kings, Beasts and Heroes (1972).

Roedd hefyd yn ffigwr pwysgig mewn llenyddiaeth Saesneg Cymru. Roedd ei nofelau a chasgliadau o storïau byrion yn cynnwys Richard Savage (1935), Times Like These (1936), The Nine Days' Wonder (1937), Garland of Hays (1938), The Buttercup Field (1945), The Flowers beneath the Scythe (1952), Shepherd's Hey (1953) a The Walk Home (1962).

Ef a sefydlodd y cylchgrawn The Welsh Review yn 1939, a bu'n olygydd iddo hyd 1948. Cyhoeddodd dair cyfrol o ddarlithoedd ar lenyddiaeth Eingl-Gymreig: The First Forty Years (1957), Being and Belonging (1977), a Babel and the Dragon's Tongue (1981).