Guacamole
Math | dip, bwyd |
---|---|
Yn cynnwys | avocado, lime juice, coriander, jalapeño, halen |
Enw brodorol | guacamole |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o cyd-bryd yw guacamole sy'n wreiddiol o Fecsico. Mae'r gair "guacamole" yn dod o'r gair Nahuatleg (iaith yr Azteciaid), ahuacamolli, sy'n golygu "saws afocado", sy'n cynnwys y geiriau âhuacatl [aːˈwakat͡ɬ] ("afocado") a molli [ˈmolːi] ("saws", yn llythrennol "trwyth") . Mae'n cyd-bryd neu saws boblogaidd gyda bwydydd Mecsico ac yn gyffredin gyda bwyd Tex-Mex.[1] Arddelwyd y sillafiad Cymraeg gwacamoli gan fand Cymraeg o'r un enw o'r 1990au hwyr.
Roedd gan yr afocado arwyddocâd erotig i'r Azteciaid, i'r fath raddau fel na allai merched gasglu'r ffrwythau, gan eu bod yn symbol o'r ceilliau.[2][3] Yn ôl mytholeg cyn-Sbaenaidd, cynigiodd y duw Quetzalcoatl rysáit guacamole i'w bobl, ac fe ledaenodd ar hyd a lled tiriogaeth Mesoamerica.
Cyfansoddiad a defnydd
[golygu | golygu cod]Mae Guacamole yn cynnwys mwydion stwnsh neu biwrî o afocados aeddfed, sudd lemwn neu leim, coriander wedi'i dorri'n fân, a halen. Mewn rhai ryseitiau, mae pupur, winwns, garlleg, pupur tsili neu domatos wedi'u torri'n fân yn cael eu hychwanegu at y guacamole. Mae'r saws gwyrdd yma'n cael ei fwyta gyda taquitos, creision tortilla neu i fynd gyda chig. Ceir paratoadau tebyg ar gyfer saladau afocado.
Mae'r ensym polyphenol oxidase (PPO) sydd i'w gael mewn afocados yn achosi guacamole i droi'n frown yn gyflym os caiff ei adael yn yr awyr agored. Gall ychwanegu sudd lemwn neu leim arafu'r broses hon. Y ffordd fwyaf effeithiol o'i warchod yw gorchuddio'r guacamole gyda haenen lynu i'w wneud yn aerglos. Gall y polyphenol oxidase gael ei anactifadu â thriniaeth pwysedd uchel. Gellir storio Guacamole wedi'i bacio dan wactod am sawl wythnos heb iddo frownio.[4]
Guacamole mewn diwylliant pop
[golygu | golygu cod]Bu cynnydd yn y defnydd o guacamole yn Unol Daleithiau America wedi i'r llywodraeth codi'r gwaharddiad ar fewnforion afocados yn y 1990au. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd â thwf ym mhoblogaeth pobl o Fecsico ac America Ladin yn y wlad, a'u nerth pwrcasu.[5]
Ceir ebychiad boblogaidd yn Saesneg America, "holy moly guacamole" a ddefnyddir i ddynodi syndod neu braw ysgafn. Does gan yr idiom ddim oll i'w wneud â'r bwyd guacalmole heblaw bod "guacamole" yn odli gyda "holy".[6] Mae'r idiom wedi ei fabwysiadu gan gwmni Prydeinig sy'n cynhyrchu bwydydd guacamole.[7]
Yn 2012 enwebwyd y ffilm fer wedi'i hanimeiddio, Fresh Guacamole, am Oscar am ffilm animeiddiedig fer. Mae'n ffilm fer swreal am baratoi guacamole gan PES (Adam Pesapane).[8]
Gwacamoli - band Cymraeg
[golygu | golygu cod]Cafwyd band pop Cymraeg o'r 1990au hwyr a 2000au cynnar o'r enw Gwacamoli, sef y sillafiad yn yr orgraff Gymraeg. Roedd y band o ardal Bangor a'r brif leisydd oedd Gethin Thomas. Bu iddynt ryddhau CD dan y teitl 'Topsy Turvy', ac EP o'r enw 'Clockwork'.[9] Roeddynt yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac, efallai eu trac fwyaf enwog oedd Plastig Ffantastig a ryddhawyd ar CD Amlgyfrannog rhaglen 'Ram Jam' ar BBC Radio Cymru yn 1997.[10]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Rise of Guacamole: Interesting Facts To Know gwefan Twisted Taco
- Guacamole Recipe // Chef Andy cyflwyniad ar wefan Youtube 'Chef Andy'
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dining Chicago → Eat this! Guacamole, a singing sauce, on its day". 2011-08-07. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 2023-01-24.
- ↑ "Diccionario de la lengua española | Real Academia Española". Cyrchwyd 13 Chwefror 2017.
- ↑ "Etimologías de Chile". Cyrchwyd 13 Chwefror 2017.
- ↑ , New York: Springer Science+Business Media, 2008, pp. 43-45, ISBN 978-0-387-75844-2
- ↑ Khazan, Olga (2015-01-31). "The Selling of the Avocado". The Atlantic. Cyrchwyd September 28, 2016.
- ↑ Dicks, Matthew (8 Rhagfyr 2020). "Holy Moly Guacamole". Gwefan Matthew Dicks.
- ↑ "Holy Moly". Gwefan Holy Moly. Cyrchwyd 4 Medi 2024.
- ↑ Top 50 Most-Viewed Indie Animated Shorts On Youtube|Cartoon Brew
- ↑ "Interview – GETH TOMOS (Gwacamoli / Diablo Rojo)". links2wales. 14 Tachwedd 2013.
- ↑ "Gwacamoli". Gwefan Apple Music. Cyrchwyd 4 Medi 2024.