Gorsaf reilffordd Union, Washington DC
Math | central station |
---|---|
Enwyd ar ôl | Washington |
Agoriad swyddogol | 1908 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, America/Efrog Newydd |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Northwest |
Sir | Washington |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 38.8973°N 77.0063°W |
Cod post | 20001 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 22 |
Rheolir gan | Jones Lang LaSalle |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth glasurol, pensaernïaeth Beaux-Arts, City Beautiful movement |
Perchnogaeth | Washington Terminal Company, United States Department of Transportation |
Statws treftadaeth | lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, National Treasure |
Manylion | |
Mae Gorsaf reilffordd Union, Washington DC yn orsaf reilffordd yn Washington DC. Defnyddiwyd yr orsaf gan drenau Amtrak, MARC (Maryland Area Rail Commuter), VRE (Virginia Rail Express) a threnau Metro Washington.
Mae dros 210,000 troedfedd sgwâr o siopau a 50,000 troedfedd sgwâr o dai bwyta. Defnyddir yr orsaf gan dros 90,000 o deithwyr yn ddyddiol.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd yr orsaf ar 27 Hydref 1907 a chwblhawyd gwaith adeiladu ym 1908. Adeiladwyd waliau allanol yr adeilad efo [[gwenithfaen gwyn o Bethel (Vermont). Cynlluniwyd yr orsaf gan Daniel H Burnham a chost yr adeilad oedd 4 miliwn o ddoleri. Daeth yr adeilad yn ganolfan ymwelwyr ar 4 Gorffennaf 1976, ond caewyd ym 1978. Pasiwyd deddf i ailddatblygu'r orsaf ym 1981. Dechreuodd gwaith ar 13 Awst 1986, ac ailagorwyd yr orsaf ar 29 Medi 1988.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan yr orsaf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-08. Cyrchwyd 2016-12-09.