Neidio i'r cynnwys

GWCCI

Oddi ar Wicipedia
GWCCI
Enghraifft o'r canlynolgrŵp rap Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2023 Edit this on Wikidata

Mae GWCCI yn fand rap Cymraeg dienw.

Am y grwp

[golygu | golygu cod]

Mae aelodau’r band yn cuddio eu hunaniaeth gan ddefnyddio masgiau, hetiau bwced a sbectol haul ac yn chwarae amrywiaeth o genres gwahanol sy'n amrywio o techno, bassline, RNB, trap, dril a drwm a bas.

Bu eu gigs yn 2023 yn cynwys Tafwyl a Dawns Haf Abertawe.

Rheolir y band label recordio cerddoriaeth Gymraeg Recordiau BICA Records – hefyd yn rhyddhau fideo sinematig ar gyfer y gân y mae sôn ei bod yn torri tir creadigol newydd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.[1]

Traciau

[golygu | golygu cod]

Rhyddahodd FRMAND drac o'r enw 'Cyfrinach' gan gynnwys GWCCI a jardinio ar 3 Mawrth 2023.[2]

Rhyddahwyd sengl newydd 'HOTEL' ar 2 Mehefin 2023. Mae trac 'CANNA' yn disgrifio bywyd Pontcanna gyda fideo cerddoriaeth a saethwyd yno.[1]

Rhyddhawyd y trac 'Tân' ar 4 Awst 2023 gan gyfeirio at anghyfiawnder ail dai yng Nghymru gan gyfeirio at y gân Tân yn Llŷn gan Plethyn.[3]

Ar 15 Medi 2023, rhyddhaodd y band y gân 'I'r GÂD' i dîm rygbi Cymru gan gyfeirio at hanes Cymru.[4] Bu Josh Adams a Taine Basham yn canmol y gân fel rhan o bwyllgor cerddoriaeth carfan rygbi Cymru.[5]

Yn 2024, rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf 'Gafr'.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Price, Emily (2023-05-31). "Secretive masked Welsh rappers to release new single". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-24.
  2. Selar, Y. (2023-03-03). "FRMAND yn rhannu 'Cyfrinach' gyda Jardinio a Gwcci". Y Selar. Cyrchwyd 2024-11-24.
  3. Selar, Y. (2023-08-09). "Gwcci yn troi'n wleidyddol gyda Tân". Y Selar. Cyrchwyd 2024-11-24.
  4. "Y band dirgel a'u cân rap i dîm rygbi Cymru". BBC Cymru Fyw. 2023-09-15. Cyrchwyd 2024-11-24.
  5. Chapman, Anna (2023-09-08). "Welsh artist GWCCI lead Wales 'into the fray' with their latest single, 'I'r gâd' - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-24.
  6. Selar, Y. (2024-07-19). "Rhyddhau albwm cyntaf Gwcci". Y Selar. Cyrchwyd 2024-11-24.