Ffwtsal
Mae ffwtsal[1][2][3] yn fath o bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar lain yr un maint â chwrt pêl-law ac sydd fel rheol o dan do ac ar lawr caled. Mae'n debyg i gêm pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-droed dan-do, pêl-droed y traeth, pêl-droed chwech neu saith-bob-ochr, a phêl-droed SUB.
Daw'r enw futsal ( Saesneg: [fʊtsal]) fel gair cyfansawdd o'r Portiwgaleg futbol de salão[a] a Sbaeneg fútbol sala[b] (neu fútbol de salón) sy'n golygu "pêl-droed dan do".
Hanes
[golygu | golygu cod]Dyfeisiwyd ffwtsal yn strydoedd Montevideo yn y 1930au yn dilyn llwyddiant Wrwgwái yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Roedd Juan Carlos Ceriani, a oedd yn athro, a oedd am addasu pêl-droed ar gyfer chwarae dan do mewn clybiau YMCA. Yn y degawdau dilynol, ymledodd y gêm i weddill America Ladin ac yna i Ewrop.
Ym 1989, cynhaliwyd pencampwriaeth cyntaf y byd gan FIFA, ac ers 1992 cynhaliwyd pencampwriaethau'r byd bob pedair blynedd. Yn ogystal, ceir cynghreiriau proffesiynol mewn gwahanol fannau yn y byd, gan gynnwys Sbaen a'r Eidal.
Rheolau
[golygu | golygu cod]Fel arfer mae ffwtsal yn cael ei chwarae dan do ar gwrt neu faes sydd yr un maint â pêl-law. Lleiafswm y maint yw 25m × 16m, mwyafswm yw 42m × 25m. Os yw'r bêl yn mynd allan o chwarae, mae'r gêm yn ail-dechrau gyda chic ail-gychwyn o'r ochr. Nid oes rheol cam sefyll. Mae maint y gôl yr un maint â gôl mewn gêm pêl-law.
Mae'r bêl a ddefnyddir yn ffwtsal yn bêl arbennig i'r gêm nad sydd yn bownsio cymaint â phêl bêl-droed arferol. Mae'r bêl yn pwyso'r un fath â phêl pêl-droed rheolaidd, ond mae ganddo bêl fewnol feddalach sy'n cynyddu rheolaeth y bêl.
Mae tîm ffwtsal yn cynnwys un gôl-geidwad a phedwar chwaraewr maes. Ceir dwy hanner i bob gêm, sy'n para 20 munud yr un gydag egwyl o 15 munud.
Ffwtsal yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Mae ffwtsal yn gêm gymharol newydd i Gymru (a Phrydain). Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm ffwtsal genedlaethol. Enillodd y tîm Gwpan gyntaf Ffwtsal Gwledydd Prydain ac Iwerddon ('Home Nations') yn 2016.[4]
Bu gêm gyntaf tîm ffwtsal cenedelaethol Cymru yn erbyn Andorra ar 2 Medi 2012. Yn anffodus collodd Cymru 2-1.
Ceir hefyd Cwpan Ffwtsal CBDC. Enillwyd y Gwpan gyntaf yn 2011 gan dîm ffwtsal C.P.D. Y Seintiau Newydd[5] Er hynny mae timau Prifysgol Caerdydd, C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Wrecsam wedi ennill y gwpan.
Tîm ffwtsal Prifysgol Caerdydd oedd unig gynrychiolwyr Cymru ym Mhencampwriaeth Cynghrair Ffwtsal UEFA a gynhaliwyd yn 2018-19.[6]
Enillwyr Pencampwriaeth Byd Ffwtsal
[golygu | golygu cod]Pencampwriaeth Ffwtsal y Byd (Cwpan y Byd Ffwtsal) yw'r bencampwriaeth tîm pwysicaf i unrhyw dîm cenedlaethol. Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1980 ac yna yn 1992 ac wedi hynny, pob pedair mlynedd.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Nodynau
[golygu | golygu cod]- ↑ Portiwgaleg Brasilaidd: [fu.t͡ʃiˈbɔw d͡ʒi saˈlɐ̃w̃], Portiwgaleg Ewropeaidd: [fu.tɨˈbɔl dɨ sɐˈlɐ̃w̃]
- ↑ ynganu: [ˌfudbol ˈsala]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://golwg.360.cymru/chwaraeon/pel-droed/114392-cymru-i-gynnal-pencampwriaeth-ffwtsal-uefa
- ↑ https://www.bangor.ac.uk/sites/default/files/2021-10/Prospectws-Cymraeg-2022.pdf
- ↑ https://campaigns.cardiffmet.ac.uk/documents/hr/3page-strategic-plan_cym.pdf
- ↑ http://www.faw.cymru/en/news/wales-ready-defend-futsal-crown/
- ↑ http://www.faw.cymru/en/news/2018-faw-futsal-cup/
- ↑ https://www.uefa.com/uefafutsalchampionsleague/news/newsid=2563540.html