Ffos-y-frân
Enghraifft o'r canlynol | glofa |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Cynllun Adfer Tir Ffos-y-frân yn waith glo brig mawr i'r gogledd-ddwyrain o Ferthyr Tudful, Cymru. Hwn oedd y pwll glo brig mawr olaf yng ngwledydd Prydain; caeodd yn Nhachwedd 2023 a bwriedir dechrau ar y gwaith adfer yn 2024.[1] Mae hefyd yn gynllyn adfer tir.
Y cwmni cloddio ac adennill tir a gontractiwyd oedd Merthyr (South Wales) Ltd (a elwid gynt yn Miller Argent), sy'n eiddo i Gwent Investments Limited, busnes teuluol preifat o Gymru. Hwn oedd rhan olaf cynllun Adfer Dwyrain Merthyr, a bwriadwyd echdynnu 10 miliwn tunnell o lo dros 15 mlynedd gan ddechrau yn 2007, gyda’r bwriad o ddefnyddio rhan o’r refeniw i ailddatblygu’r hen weithfeydd diwydiannol presennol ar gyfer tai a hamdden.
Mae’r pwll glo brig wedi ennyn cryn feirniadaeth ar raddfa leol[2] a chenedlaethol, gan gynnwys gwrthwynebiad ar sail iechyd a diogelwch ynghylch agosrwydd tai i’r safle, pryderon am ddifetha’r dirwedd, a phryderon byd-eang ynghylch cyfraniad llosgi glo at newid hinsawdd.[3] Mae nifer o brotestiadau wedi digwydd ar ac o gwmpas y safle.[4][5]
Daeth trwydded y safle i ben ym Medi 2022; cafodd cais am estyniad 9 mis ei ffeilio gyda Chyngor Merthyr Tudful[6] a chafodd ei wrthod yn mis Ebrill 2023, gan olygu y byddai'n rhaid cau'r safle.[7] Fis Awst 2023, cyhoeddodd y cwmni y byddai'r pwll yn cau erbyn diwedd Tachwedd 2023.[8] Caeodd y pwll glo yn Nhachwedd 2023 fel a gynlluniwyd.[1]
Cludwyd y glo wedi'i olchi o'r safle ar reilffordd ar hyd hen lwybr Rheilffordd Rhymni. Gan ymuno â Rheilffordd fodern Rhymni ychydig i'r de o orsaf reilffordd Ystrad Mynach, teithiodd y trenau ymlaen wedyn drwy Gaerdydd ac yna i'r gorllewin ar hyd Rheilffordd Bro Morgannwg. Fis Mawrth 2017, anfonodd Miller Argent ei ddosbarthiad olaf o lo i Orsaf Bŵer Aberddawan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Coal: UK's last opencast mine shuts after legal row". bbc.com. 30 November 2023.
- ↑ "Battle against opencast plan". BBC. 2003-08-05. Cyrchwyd 2007-10-19.
- ↑ "The New Coal Age". George Monbiot (yn Saesneg). 2007-10-09. Cyrchwyd 2023-08-26.
- ↑ "Protest halts opencast mine work" (yn Saesneg). 2007-12-05. Cyrchwyd 2023-08-26.
- ↑ Hayward, Will (2017-04-21). "Protesters dressed as canaries 'shut down' Valleys coal mine". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-26.
- ↑ "Plans put forward for Merthyr coal mine to keep operating..." Wales Online. 20 September 2022.
- ↑ "Merthyr Tydfil: UK's largest opencast coalmine to shut". BBC News. 26 April 2023.
- ↑ "More than 150 redundancies expected as date is set to close mine in Merthyr Tydfil". itv.com. 15 August 2023.
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Merthyr (South Wales) Ltd Archifwyd 2024-07-13 yn y Peiriant Wayback