Ffŵl Ebrill

![]() | |
Enghraifft o: | digwyddiad sy'n ailadrodd, dathliad blynyddol ![]() |
---|---|
Math | traddodiad, Q106832578 ![]() |
Dechreuwyd | 1564 ![]() |
Lleoliad | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Ffrainc, yr Eidal, Portiwgal, yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Rwmania, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Denmarc, Sweden, Norwy, Gwlad yr Iâ, Unol Daleithiau America, Awstralia, Brasil, Japan, Galisia, Menorca, Awstria, Y Swistir, Taiwan ![]() |
Yn cynnwys | tric ffŵl Ebrill ![]() |
![]() |
Dethlir ffŵl Ebrill[1] (weithiau Ebrill ffŵl[1]) mewn nifer o wledydd ar fore 1 Ebrill bob blwyddyn. Nid yw Dydd Ffŵl Ebrill yn wŷl genedlaethol, ond adnabyddir a dethlir y dydd yn fyd-eang fel diwrnod pan fydd pobl yn chwarae pranciau ar ei gilydd.
Nid oes sicrwydd beth yw tarddiad yr arferiad. Yn ôl un ddamcaniaeth, daeth o wŷl Rufeinig hynafol i ddathlu'r dduwies Ceres pan fyddai dynion yn chwarae bili-ffŵl a gwisgo dillad benywod. Mae'r ail ddamcaniaeth yn cysylltu'r traddodiad hwn â dathliadau blwyddyn newydd. Cyn y flwyddyn 1582, pan gyflwynwyd calendr newydd, yr oedd pobl yn arfer dathlu blwyddyn newydd ar ddiwedd mis Mawrth ac yr oedd 1 Ebrill yn ddiwedd cyfnod o adloniant. Gan hynny, awgryma eraill y byddai'r rhai a oedd yn dathlu ar 1 Ionawr yn chwerthin am bennau'r rhai a oedd yn dal i ddathlu yn y gwanwyn.
Triciau Ffŵl Ebrill yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Mae cofnod o'r term yn 1823[1] a sôn amdano fel "hen arfer" ym mhapur newydd y Dydd yn 1876.[2]
Yn 1893, cyhoeddwyd y gerdd ganlynol gan "Llinos Wyre" ym mhapur Tarian y Gweithiwr:[3]
FFWL EBRILL.
Ar foreu Ebrill mwyn,
Gwnaeth plant ysgoldy'r Llwyn
Ystori erchyll
Sef dweyd wrth berson glân,
O Syr, mae'r Llan ar dân
A chredodd yntau'n lân,
Aeth gyda'r llanciau man,—
Ha! ha! Ffwl Ebrill.
Aeth Mari Ty'syllin
I ffermdy mawr Pe Ian
At Dr. Gwyngyll
Gan ddweyd dan chwerw loes,
Gwnaeth meistres dori ei choes,
O! dewch ar frys heb groes
Ond erbyn gwelgd y goes,-
Ha ha! Ffwl Ebrill
I ffermdy Glanydwr
Cyfeiriodd ieuanc wr,
Sef gwas Bryncypill;
A d'wedodd: "O mor falch
Fod Billy Jones yr Arch
Mewn awydd prynu'r march
Aeth Robin gyda'r gwalch,-
Ha ha ! Ffwl Ebrill.
Dywedodd rhyw hen wraig
Fod gwyddau Bwlchygraig
I gyd yn dywyll!
A dyma blant y wlad
Yn rhedeg nerth eu tra'd,
I wel'd y gwyddau mad
Ond chwarddai mam a nhad,—
Ha ha! Ffwl Ebrill.
Mae'r Sais yn dweyd o hyd
Mai ef fydd pen y byd,-
Anwiredd erchyil:
Ei war a blygwn lawr,
Mae Cymru'n deffro'n awr,
Cyn hir fe dyr y wawr,
A bydd ei feddwl mawr
Yn medd Ffwl Ebrill
Ac yn 1914 roedd Yr Herald Cymraeg yn sôn am driciau tebyg megis gwraig yn dweud wrth ei gŵr bod y tŷ drws nesa ar dân.[4]
Yn 1985 fe gyhoeddodd Sulwyn Thomas ar ei raglen Stondin Sulwyn ar Radio Cymru y byddai Eisteddfod Genedlaethol 1991 yn cael ei gynnal yn Los Angeles.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 ffŵl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 03 Ebrill 2025.
- ↑ "Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-03.
- ↑ "Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-03.
- ↑ "Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-03.
- ↑ "BBC - Cymru - Bywyd - Blwyddyn Gron - Dydd Ffŵl Ebrill". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-04-03.