Erin Brockovich
Erin Brockovich | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mehefin 1960 Lawrence |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, person busnes, amgylcheddwr |
Tad | Frank Pattee |
Gwefan | https://www.brockovich.com/ |
Clerc cyfreithiol, eiriolwr defnyddwyr, ac actifydd amgylcheddol o'r Unol Daleithiau yw Erin Brockovich (ganwyd Pattee, 22 Mehefin 1960)[1] Roedd ei chyngaws llwyddiannus yn erbyn y Cwmni Pacific Gas & Electric o Califfornia ym 1993 yn destun ffilm 2000, Erin Brockovich, a oedd yn serennu Julia Roberts.[2] Mae Brockovich wedi dod yn bersonoliaeth cyfryngau hefyd, gan gynnal y gyfres deledu Challenge America gydag Erin Brockovich ar ABC a Final Justice ar Zone Reality.
Cafodd hi ei geni fel Erin Pattee yn Lawrence, Kansas. Roedd hi'n ferch i Betty Jo (ganwyd O'Neal; c. 1923-2008) a Frank Pattee (1924–2011). Graddiodd Brockovich o Ysgol Uwchradd Lawrence, astudiodd ym Mhrifysgol Talaith Kansas, a graddiodd gyda Gradd Gysylltiol yn y Celfyddydau Cymhwysol o Goleg Wade yn Dallas, Texas. Priododd â Shawn Brown fel ei gŵr cyntaf. Mae ganddi dri o blant: gan gynnwys merch gan ei hail ŵr Steven Brockovich, a Matthew a Katie Brown o'i phriodas gyntaf. Mae ei thrydydd gŵr yn ganwr.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brimer, Leon (2011). Chemical food safety (yn Saesneg). Wallingford, Oxfordshire Cambridge, MA: CABI. t. 139. ISBN 9781845936761.
- ↑ Donnelley, Paul (2003). Julia Roberts confidential : the unauthorised biography (yn Saesneg). London: Virgin Books. t. 185. ISBN 9781852270230.
- ↑ Friedman, Ann (Hydref 2016). "Erin Brockovich". The Gentlewoman. Rhif. 14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2021. Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.