Neidio i'r cynnwys

Emily Davies

Oddi ar Wicipedia
Emily Davies
Ganwyd1924
Bu farw8 Medi 1992
Aberystwyth
PartnerDewi Aled Eirug Davies

Actores, darlithydd a cyfarwyddwr theatr oedd Emily Davies (19248 Medi 1992). Bu’n rhan allweddol o Gwmni Theatr Cymru ar gychwyn yr 1980au, wedi ymadawiad Wilbert Lloyd Roberts. Cyn ymuno â'r Cwmni, roedd hi'n ddarlithydd mewn Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n ddylanwad mawr ar rai o actorion blaenllaw Cymru, fel Rhian Morgan, Betsan Llwyd, Nia Caron, Alun ap Brinley a Geraint Lewis.

Wedi ymadawiad Wilbert Lloyd Roberts ym 1982, Emily Davies a Ceri Sherlock oedd y ddau a gymerodd yr awenau i arwain Cwmni Theatr Cymru. Bu hefyd yn actio yng nghynyrchiadau cynnar y cwmni gan gynnwys y llwyfaniad cyntaf o ddrama Saunders Lewis, Cymru Fydd ym 1967.

Roedd hi'n briod gyda'r gweinidog Dewi Aled Eurig Davies (1922-1997) ac mae ganddynt ddau fab.[1]

Teyrngedau ac atgofion

[golygu | golygu cod]

"Rhaid dweud o'r dechrau na fyddwn i'n gweithio yn y theatr yng Nghymru onibai am Emily Davies", meddai'r cyfarwyddwr Ceri Sherlock, wrth dalu teyrnged iddi yn Barn (Tachwedd 1992).

"I rai, efallai na fyddai hyn yn golled ond i mi roedd yn achubiaeth, yn wir yn achubiaeth enaid."[2]

"...yn 1982, [clywais] fod Emily Davies i gymryd yr awenau [Cwmni Theatr Cymru] gyda'i chred mewn creu cnewyllyn o actorion i ffurfio ensemble ac i fentro ar arddull y theatr Ewropeaidd yng Nghymru. Wrth gwrs, mi wnaeth Wilbert Lloyd Roberts hyn ar ddechrau'r fenter, ond gydag Emily y daeth yr egwyddor fod actio'n gelfyddyd, yn grefft, yn ddisgyblaeth ac yn ffordd o fyw. Cred y Moscow Arts Theatre - cred y theatr naturiolaidd. I mi ar y pryd roedd hyn yn fiwsig, a phan glywais Emily'n sôn am yr actor fel canolbwynt, ac am wasanaethu'r testun, yn byrlymu am waith Peter Brooke (gŵr yr oeddwn ar y pryd yn ceisio trefnu i gydweithio ag ef ym Moscow ond heb fawr o lwc) [...] cefais f'ysbrydoli."[2]

Mae'r actor a'r cyfarwyddwr Dafydd Hywel yn sôn am un o'i chynyrchiadau yn ei hunangofiant, sef Noa (1982):

"Ro'dd Emily Davies wedi dod i amlygrwydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn fawr ei pharch ledled Cymru a thu hwnt. Ro'n i'n adnabod nifer o gyn-fyfyrwyr Mrs Davies o'dd wedi torri cwys amlwg i'w hunen ym myd y theatr o ganlyniad i'r profiade a gawson nhw yn adran ddrama'r brifysgol. Ro'dd hi'n amlwg yn brofiadol, yn egniol ac yn deall ei phethe, ond i radde ro'dd ei harbenigedd yn seiliedig ar ei gwaith fel darlithydd coleg." Yn anffodus, trodd yr ymarferion yn "hunlle" i'r actor Dafydd Hywel, a bu gwrthdaro amlwg rhyngddo ag Emily Davies.[3]

Cast y cynhyrchiad cyntaf o'r ddrama Cymru Fydd, Cwmni Theatr Cymru 1967

Fel actores :

Fel cyfarwyddydd :

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Tudno Williams (2009). "Davies, Dewi Aled Eirug (1922-1997), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 15 Medi 2024.
  2. 2.0 2.1 Sherlock, Ceri (Tachwedd 1992). "Yr her sy'n para". Barn 358.
  3. Hywel, Dafydd (2012). Hunangofiant Alff Garnant. Gomer. ISBN 9781848515376.