Ellie Simmonds
Ellie Simmonds | |
---|---|
Ganwyd | 11 Tachwedd 1994 Glossop |
Dinasyddiaeth | Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofiwr |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Cyn-nofiwr Paralympaidd yw Eleanor May Simmonds, OBE (ganwyd 11 Tachwedd 1994,[1] Glossop, Swydd Derby).[2] Mae hi'n dal i ymddangos ar amrywiaeth o raglenni teledu, gan gynnwys fel sylwebydd nofio.
Rhoddwyd Simmonds i'w mabwysiadu pan oedd yn ddwy wythnos oed, ar ôl ei diagnosis o achondroplasia. Tyfodd hi lan yn ardal Walsall, Gorllewin Canolbarth Lloegr.[2] Pan oedd yn 11 oed, symudodd ei theulu i Abertawe. Roedd angen i Simmonds ddefnyddio Pwll Cenedlaethol Cymru yn y ddinas. Mynychodd Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Sgeti.[3]
Cystadlodd hi y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn 13 oed, yn Beijing yn Haf 2008. Enillodd hi ddwy fedal aur, gan ennill y digwyddiadau nofio dull rhydd 100m a 400m (categori S6).[1]
Daeth hi'n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn 2009, y person ieuengaf erioed i gael MBE. Wedyn penodwyd Simmonds yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2013.[1]
Ymddeolodd o nofio cystadleuol yn 2021 .[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Mercer, David (25 Awst 2021). "Ellie Simmonds: Why swimmer 'hated' her sport and almost quit before aiming for medal glory at Tokyo Paralympics" (yn Saesneg). Sky News. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Mayor, Rob; Rack, Susie (6 Gorffennaf 2023). "Ellie Simmonds' emotional search for birth mother" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
- ↑ Turner, Robin (25 Ebrill 2015). "Paralympic swimming champ Ellie Simmonds says Swansea will always have a special place in her heart" (yn Saesneg). Wales Online. Cyrchwyd 8 Medi 2024.