Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1899 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1899 yng Nghaerdydd. Rowland Williams (Hwfa Môn) oedd yr Archdderwydd a lleolwyd Cerrig yr Orsedd ym Mharc Cathays.[1]
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Gladstone | - | Atal y wobr |
Y Goron | Y Diddanydd Arall | - | Richard Roberts (Gwylfa) |
Y Goron
[golygu | golygu cod]Y wobr oedd £21 a Choron gwerth £10. Y beirniaid oedd Dyfed, Elfed, Isaled, Pedrog, a Cheulanydd.
Y Gadair
[golygu | golygu cod]Gofynnwyd am awdl heb fod dros 800 llinell. Y beirniaid oedd Dyfed, Pedrog, Isaled, Elfed a Cheulanydd. Roedd 6 ymgeisydd ond yn anffodus doedd neb yn deilwng o'r wobr ariannol o £21 a chadair dderw gwerth £10.
Y Corau
[golygu | golygu cod]Enillwyd y brif gystadleuaeth gorawl gan y Cardiff Choral Society, a'r brif gystaleuaeth corau merched gan Abertawe gyda 7 cor yn cystadlu. Yng nghystadleuaeth y Corau Meibion rhwng 60 ac 80 o leisiau, Barry District Glee Society oedd yr enillwyr.
Y Cyngherddau
[golygu | golygu cod]Cyngerdd Nos Fawrth - Y Llywydd oedd Owen Morgan Edwards. Cyngerdd mawreddog o gerddoriaeth Gymraeg amrywiol gyda Gertude Drinkwater, Hannah Jones, Ben Davies, W. Trevor Evans, Daniel Price, band o delynau a'r Royal Welsh Ladies Choir.
Cyngerdd Nos Fercher - Eleias gyda Côr yr Eisteddfod a cherddorfa gyda T.E. Aylward yn arwain ac wyth unawdydd.
Cyngerdd Nos Iau - The Golden Legend gan Syr Arthur Sullivan gyda Chôr yr Eisteddfod a 100 aelod.
Cyngerdd Nos Wener: Amrywiol gyda 4 unawdydd ac enillwyr unawdau a chorau'r dydd.
Cynmgerdd Nos Sadwrn: Grand Evening Concert. Côr yr Eisteddfod o 500 o leisiau gyda'r band pres buddugol. [1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd