Edmund Husserl
Edmund Husserl | |
---|---|
Ganwyd | Edmund Gustav Albrecht Husserl 8 Ebrill 1859 Prostějov |
Bu farw | 27 Ebrill 1938 Freiburg im Breisgau |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Ymerodraeth yr Almaen |
Addysg | Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth, athro cadeiriol, Privatdozent |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, athronydd, academydd, phenomenologist |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | legitimacy, Logical Investigations |
Prif ddylanwad | Bernard Bolzano, Carl Stumpf, Theodor Lipps, Franz Brentano, Gottlob Frege, Immanuel Kant |
Mudiad | athroniaeth y Gorllewin |
Priod | Malvine Husserl |
Athronydd o'r Almaen oedd Edmund Gustav Albrecht Husserl (8 Ebrill 1859 – 27 Ebrill 1938) sy'n nodedig am sefydlu ffenomenoleg. Pwysleisiodd Husserl sythwelediad yn hytrach na dadansoddiad wrth ddisgrifio'r profiad goddrychol, gan wahaniaethu ffenomenoleg oddi ar empiriaeth a rhesymeg ddiddwythol.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Teulu a magwraeth (1859–76)
[golygu | golygu cod]Ganwyd Edmund Husserl ar 8 Ebrill 1859 yn Prossnitz (hen orgraff Almaeneg: Proßnitz), Ardalyddiaeth Morafia, yn Ymerodraeth Awstria, tref a elwir heddiw yn Prostějov yn y Weriniaeth Tsiec. Iddewon oedd ei deulu.
Addysg (1876–87)
[golygu | golygu cod]Mynychodd y Gymnasium yn Olmütz a chyflawnodd ei arholiadau yn 1876. Astudiodd ffiseg, mathemateg, seryddiaeth, ac athroniaeth ym mhrifysgolion Leipzig, Berlin, a Fienna. Derbyniodd ei ddoethuriaeth ar bwnc calcwlws o Fienna yn 1882, a wnaeth dan diwtoriaeth y mathemategydd Leo Königsberger.
Yn nhymor yr hydref 1883, dychwelodd i Fienna i astudio gyda'r athronydd a seicolegydd Franz Brentano. Dylanwadwyd ar Husserl yn gryf gan bwyslais Brentano ar seicoleg ddisgrifiadol a'r ysbryd rhesymolaidd a arddelid gan ei fyfyrwyr. Yn 1886 trodd Husserl yn aelod ffurfiol o'r Eglwys Lwtheraidd Efengylaidd, arfer a wnaed gan nifer o academyddion Iddewig yn y gwledydd Almaenig yn y 19g. Y flwyddyn honno, aeth Husserl, ar gais Brentano, i ennill ei gymhwyster addysgu dan diwtoriaeth Carl Stumpf, athro athroniaeth a seicoleg ym Mhrifysgol Halle. Yn 1887 priododd Husserl â Malvine Steinschneider (1860–1950), merch i athro ysgol uwchradd o Prossnitz, a chawsant briodas serchus hyd ddiwedd ei oes.
Darlithio yn Halle (1887–1901)
[golygu | golygu cod]Yn 1887, cafodd Husserl ei dderbyn yn athro yn Halle, a bu'n darlithio yno nes 1901.
Ei gyfnod yn Göttingen (1901–16) a Freiburg (1916–28)
[golygu | golygu cod]Yn 1901, penodwyd Husserl yn ausserordentlicher (darlithydd prifysgol) ym Mhrifysgol Göttingen, ar gais y mathemategydd David Hilbert. Bu yno nes iddo symud i Brifysgol Freiburg yn 1916. Ymddeolodd o'i yrfa academaidd yn 1928.
Diwedd ei oes (1928–38)
[golygu | golygu cod]Bu farw ar 27 Ebrill 1938 yn 79 oed yn Freiburg im Breisgau.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- 1887. Über den Begriff der Zahl. Psychologische Analysen
- 1891. Philosophie der Arithmetik. Psychologische und logische Untersuchungen
- 1900. Logische Untersuchungen. Erster Teil: Prolegomena zur reinen Logik
- 1901. Logische Untersuchungen. Zweiter Teil: Untersuchungen zur Phänomenologie und Theorie der Erkenntnis
- 1911. Philosophie als strenge Wissenschaft
- 1913. Ideen zu einer reinen Phänomenologie und phänomenologischen Philosophie. Erstes Buch: Allgemeine Einführung in die reine Phänomenologie
- 1923–24. Erste Philosophie. Zweiter Teil: Theorie der phänomenologischen Reduktion
- 1925. Erste Philosophie. Erster Teil: Kritische Ideengeschichte
- 1928. Vorlesungen zur Phänomenologie des inneren Zeitbewusstseins
- 1929. Formale und transzendentale Logik. Versuch einer Kritik der logischen Vernunft
- 1930. Nachwort zu meinen „Ideen zu einer reinen Phänomenologie und phänomenologischen Philosophie“
- 1936. Die Krisis der europäischen Wissenschaften und die transzendentale Phänomenologie: Eine Einleitung in die phänomenologische Philosophie
- 1939. Erfahrung und Urteil. Untersuchungen zur Genealogie der Logik.
- 1950. Cartesianische Meditationen
- 1952. Ideen II: Phänomenologische Untersuchungen zur Konstitution
- 1952. Ideen III: Die Phänomenologie und die Fundamente der Wissenschaften
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Edmund Husserl. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Awst 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- J. N. Mohanty, The Philosophy of Edmund Husserl: A Historical Development (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2008).
- J. N. Mohanty, Edmund Husserl's Freiburg Years, 1916-1938 (New Haven, Conntecticut: Yale University Press, 2011).
- Maurice Natanson, Edmund Husserl: Philosopher of Infinite Tasks (Evanston, Illinois: Northwestern University Press, 1973).
- Academyddion o'r Almaen
- Almaenwyr Iddewig
- Athronwyr y 19eg ganrif o'r Almaen
- Athronwyr yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Cyn-Iddewon
- Ffenomenolegwyr
- Genedigaethau 1859
- Llenorion y 19eg ganrif o'r Almaen
- Llenorion yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Lwtheriaid o'r Almaen
- Marwolaethau 1938
- Rhesymegwyr o'r Almaen
- Ysgolheigion Almaeneg o'r Almaen