Dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig
Athrawiaethau'r Eglwys Gatholig ynglŷn â moeseg gymdeithasol, urddas y ddynolryw, a lles cyffredin yw dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig. Mae'n ymdrin â gormes, rôl y wladwriaeth, datganoliaeth, trefnu cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol, a dosraniad cyfoeth. Dechreuodd dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig fodern yn sgil cyhoeddi'r cylchlythyr Rerum Novarum gan y Pab Leo XIII yn 1891, sy'n dadlau dros ddosraniadaeth economaidd. Mae'n adeiladu ar hen gorff o ddiwinyddiaeth a syniadaeth foesegol gan ysgrifenwyr Catholig, yn eu plith Tomos o Acwin ac Awstin o Hippo, yn ogystal â'i phrif ffynhonnell y Beibl a thraddodiad yr Eglwys Gristnogol sy'n olrhain ei hanes i'r Dwyrain Agos hynafol.[1]
Nodweddir dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig gan feirniadaeth o fodernedd ac ideolegau'r adenydd chwith a dde. Ers diwedd y 19g, mae sawl pab wedi lladd ar agweddau o syniadaeth a mudiadau rhyddfrydiaeth, comiwnyddiaeth, ffeministiaeth,[2][3] anffyddiaeth,[4] sosialaeth,[5] ffasgaeth, cyfalafiaeth,[5] a Natsïaeth.[6]
Cylchlythyrau'r Pab
[golygu | golygu cod]Gorchmynnir dysgeidiaeth gymdeithasol yr Eglwys Gatholig gan gylchlythyrau'r Pab. Ymhlith y prif gylchlythyrau mae:
- Rerum Novarum (Pab Leo XIII, 1891)
- Quadragesimo Anno (Pab Pïws IX, 1931)
- Pacem in Terris (Pab Ioan XXIII, 1963)
- Populorum Progressio (Pab Pawl VI, 1967)
- Centessimus Annus (Pab Ioan Pawl II, 1991)
Cyfiawnder cymdeithasol
[golygu | golygu cod]Mae dealltwriaeth yr Eglwys Gatholig o gyfiawnder cymdeithasol yn galw ar lywodraethau i ystyried amodau ac anghenion y bobl dlotaf a'r rhai dan anfantais yng nghymdeithas.
Diwinyddiaeth rhyddhad
[golygu | golygu cod]- Prif: Diwinyddiaeth rhyddhad
Mudiad Catholig a ddechreuodd yn America Ladin yn hwyr yr 20g yw diwinyddiaeth rhyddhad, sy'n ceisio helpu'r tlawd a lleiháu anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol. Datgenid pryderon am anghyfiawnderau'r gyfundrefn gyfalafol ryngwladol yng Nghynadleddau Esgobol America Ladin (CELAM) ym Medellín (1968) ac yn Puebla (1979). Mae rhai agweddau o ddiwinyddiaeth rhyddhad yn tynnu ar ddadansoddiadau Marcsaidd o strwythur cymdeithas.
Pynciau llosg
[golygu | golygu cod]Mae sawl agwedd o ddysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig, yn enwedig y pethau sy'n ymwneud ag ymddygiad rhywiol, yn bynciau llosg ym myd y Gorllewin. Mae'r Eglwys yn condemnio cyfunrywioldeb, erthyliad, a rheoli cenhedlu. Mae dysgeidiaeth yr Eglwys hefyd yn groes i hunanladdiad ac ewthanasia.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Enrique Nardoni, translated by Sean Martin (2004). Rise Up, O Judge: A Study of Justice in the Biblical World. Baker Books.
- ↑ Ellen C. Mayock, Domnica Radulescu (2010-08-24). Feminist Activism in Academia: Essays on Personal, Political and Professional Change. McFarland. ISBN 9780786457700. Cyrchwyd 2011-04-08.
Catholic institutions are often dependent upon the generosity of benefactors who are politically and religiously conservative, wary of or outright disapproving of feminism. Catholic traditions and current official church stands are at odds with many feminist positions.
- ↑ Lynne Bravo Rosewater, Lenore E. Walker (1985-06-15). A Handbook of Feminist Therapy: Women's Issues in Psychotherapy. Wiley-Blackwell. ISBN 9780826149701. Cyrchwyd 2011-04-08.
Other feminist concerns, such as changes in sexist language, have been an issue for almost a decade in the Roman Catholic Church and most other churches as well.
- ↑ Catechism of the Catholic Church. Burns & Oates. 2002-06-23. ISBN 9780860123248. Cyrchwyd 2011-04-08.
2123 'Many... of our contemporaries either do not at all perceive, or explicitly reject, this intimate and vital bond of man to God. Atheism must therefore be regarded as one of the most serious problems of our time.'
- ↑ 5.0 5.1 S. Adamiak, E. Chojnacka, D. Walczak, Social security in Poland – cultural, historical and economical issues, Copernican Journal of Finance & Accounting, Vol 2, No 2, p. 16.
- ↑ See encyclical Mit brennender Sorge, 1937
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Roger Aubert, Catholic Social Teaching: An Historical Perspective (Milwaukee: Marquette University Press, 2003).