Drama radio
Gwedd
Drama a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer ei darlledu ar y radio yw drama radio.
Cyn dyddiau'r teledu y ddrama radio oedd y prif gyfrwng drama ac eithrio'r llwyfan theatr.
Un o'r dramâu radio enwocaf yn yr iaith Saesneg yw Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Ysgrifennodd Saunders Lewis sawl drama radio, yn cynnwys Esther ac Excelsior (er na ddarlledwyd yr olaf oherwydd sensoriaeth y BBC).