Donald Sutherland
Donald Sutherland | |
---|---|
Ganwyd | Donald McNichol Sutherland 17 Gorffennaf 1935 Saint John |
Bu farw | 20 Mehefin 2024 Miami |
Man preswyl | Stanstead |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llais, Llefarydd, cynhyrchydd ffilm, actor cymeriad, actor llwyfan, ymgyrchydd heddwch, actor teledu, sgriptiwr, actor |
Tad | Frederick McLea Sutherland |
Mam | Dorothy Isobel McNichol |
Priod | Lois Hardwick, Shirley Douglas, Francine Racette |
Plant | Kiefer Sutherland, Rossif Sutherland, Angus Sutherland, Rachel Sutherland, Regg Sutherland |
Perthnasau | Sarah Sutherland |
Gwobr/au | Cydymaith o Urdd Canada, Gwobr Romy, Teen Choice Award for Best Villain, Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Swyddog Urdd Canada, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Gwobr Golden Globe am yr Actor Cefnogol Gorau - Cyfres, Cyfres-bitw neu Ffilm Deledu, Urdd Canada, Ordre des Arts et des Lettres, Gwobr Emmy 'Primetime', Golden Globes |
Actor o Ganada oedd Donald McNichol Sutherland, CC (17 Gorffennaf 1935 – 20 Mehefin 2024)[1][2] y bu ei yrfa ffilm yn ymestyn dros saith degawd.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cododd Sutherland i enwogrwydd ar ôl chwarae mewn cyfres o ffilmiau llwyddiannus, gan gynnwys The Dirty Dozen (1967), M*A*S*H (1970), Kelly's Heroes (1970), Klute (1971), Don't Look Now (1973), Fellini's Casanova (1976), 1900 (1976), Animal House (1978), Invasion of the Body Snatchers (1978), Ordinary People (1980) ac Eye of the Needle (1981).[4]
Wedi hynny sefydlodd ei hun fel un o actorion cymeriad mwyaf parchus a hyblyg Canada.[5]
Yn ddiweddarach bu'n serennu mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus eraill lle ymddangosodd naill ai mewn rolau arweiniol neu gynorthwyol megis A Dry White Season (1989), JFK (1991), Outbreak (1995), A Time to Kill (1996), Without Limits (1998), The Italian Job (2003), Cold Mountain (2003), Pride & Prejudice (2005), Aurora Borealis (2006) a masnachfraint The Hunger Games (2012–2015).
Enwebwyd Sutherland am wyth Gwobr Golden Globe, gan ennill dau am ei berfformiadau yn y ffilmiau teledu Citizen X (1995) a Path to War (2002); daeth Citizen X hefyd â Gwobr Emmy Primetime iddo. Roedd ganddo seren ar Balmant Enwogion Hollywood a Phalmant Enwogion Canada. Mae wedi derbyn Gwobr Academi Canada am y ffilm drama Threshold (1981). Mae sawl cyhoeddiad cyfryngau a beirniad ffilm wedi ei ddisgrifio fel un o'r actorion gorau na enwebwyd erioed am Oscar. Yn 2017, derbyniodd Wobr Oscar Er Anrhydedd am ei gyfraniadau at sinema.[6][7][8].
Yn y gyfres ddrama hanesyddol Trust, sy'n ymdrin a herwgipiad John Paul Getty III, roedd Sutherland yn chwarae rhan y teicŵn J. Paul Getty. Darlledwyd y gyfres ar sianeli FX a BBC 2.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu'n briod deirgwaith. Roedd ei briodas gyntaf i Lois May Hardwick, prifathrawes,[9] rhwng 1959 a 1966. Roedd ei ail briodas rhwng 1966 a 1970, i Shirley Douglas, merch Tommy Douglas cyn brif-weinidog Saskatchewan a adnabuwyd fel 'Tad Medicare' yng Nghanada.[10] Cawsant ddau o blant y gefeilliaid Kiefer and Rachel. Rhwng 1970 a 1972, cafodd garwriaeth gyda ei gyd-seren yn Klute, Jane Fonda.[11]
Priodd yr actores Ffrengig-Ganadaidd Francine Racette yn 1972, wedi ei chyfarfod ar set y ddrama Canadaidd Alien Thunder. Cawsant tri mab – Rossif Sutherland, Angus Redford Sutherland, and Roeg Sutherland[10] – y tri wedi eu henwi ar ôl cyfarwyddwr oedd Sutherland wedi gweithio gyda nhw. Enwyd Kiefer ar ôl yr awdur a chyfarwyddwr Americanaidd Warren Kiefer, a'i gyfarwyddodd yn ei ffilm nodwedd cyntaf Castle of the Living Dead[12]; enwyd Roeg ar ôl y cyfarwyddwr Nicolas Roeg; enwyd Rossif ar ôl y cyfarwyddwr Ffrengig Frédéric Rossif; ac mae enw canol Angus Redford wedi ei enwi ar ôl Robert Redford.[10]
Bu farw yn 88 mlwydd oed yn Miami wedi salwch hir.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chase, W.D.R.; Chase, H.M. (1994). Chase's Annual Events. Contemporary Books. ISSN 0740-5286.
- ↑ 2.0 2.1 "Actor Donald Sutherland dies aged 88". BBC News (yn Saesneg). 2024-06-20. Cyrchwyd 2024-06-20.
- ↑ "Donald Sutherland Biography at". filmreference. 2008. Cyrchwyd 4 April 2008.
- ↑ Cannes profile page
- ↑ Britannica biography of Donald Sutherland
- ↑ Singler, Leigh (19 February 2009). "Oscars: the best actors never to have been nominated". The Guardian. Cyrchwyd 6 June 2013.
- ↑ Kiang, Jessica (1 January 2016). "30 Great Actors Who've Never Been Oscar Nominated". Indiewire. Cyrchwyd 6 June 2016.
- ↑ Robey, Tim (1 February 2016). "20 great actors who've never been nominated for an Oscar". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 6 June 2016.
- ↑ "Obituary: Lois Sutherland, 1936-2010" (PDF). The Archer. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar June 1, 2011.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 The Observer Archifwyd Ionawr 29, 2017, yn y Peiriant Wayback, March 30, 2008: On the money – interview with Donald Sutherland; retrieved June 16, 2012.
- ↑ World Entertainment News Network (March 14, 2001). "Donald Sutherland's Love For Jane Fonda". www.cinema.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 29, 2020. Cyrchwyd July 21, 2023.
- ↑ Off Screen Volume 15, Issue 12, 31 December 2011: Warren Kiefer – The Man Who Wasn’t There Archifwyd Mai 17, 2013, yn y Peiriant Wayback; retrieved June 16, 2012.