Difodiant
Math | diwedd, risg biolegol |
---|---|
Y gwrthwyneb | rhywogaethu |
Rhan o | diraddio'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth, Difodiant mawr bywyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Difodiant yw diwedd bywyd organeb byw, grwp o organebau byw (tacson) neu rywogaeth, fel arfer. Gellir diffinio difodiant o ran amser fel y foment honno pan fo aelod ola'r rhywogaeth yn marw. Defnyddir y term gan mwyaf o fewn daeareg, bywydeg ac ecoleg. Ar adegau, ceir hyd i rywogaeth a gredwyd oedd wedi difodi; mae'n ailymddangos, yn dal yn fyw a gelwir hon yn rhywogaeth Lasarus, oherwydd i Lasarus, yn ôl y chwedl atgyfodi.
Cred gwyddonwyr fod dros 99% o'r holl rywogaethau sydd erioed wedi byw ar wyneb Daear wedi difodi; mae hyn yn gyfystyr â phum biliwn o rywogaethau.[1][2][3] Mewn cymhariaeth, amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn a 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw, gyda dim ond 1.2 miliwn ohonynt wedi eu cofnodi.[4]
Gellir dweud i raddau fod difodiant yn broses cwbwl naturiol o ran esblygiad. Y ddau reswm mwyaf dros ddifodiant yw: yn gyntaf, amgylchiadau sy'n newid yn sydyn e.e. daeargrynfeydd ysgytwol neu newid tymheredd ac yn ail cystadleuaeth gan rywogaeth arall.[5] Ar gyfartaledd mae rhywogaeth yn difodi wedi 10 miliwn o fodolaeth, er bod yr hyn a elwir yn 'ffosiliau byw' yn parhau am gannoedd o filiynau rhagor o fodolaeth, heb fawr o newid esblygol, morffolegol.[3]
Statws cadwraeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Rhywogaeth mewn perygl
Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestri statws cadwraeth yw Rhestr Goch yr IUCN.
Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:
- Wedi ei ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth ar ôl, er enghraifft y Dodo.
- Wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
- Mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
- Mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatros
- Archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
- Dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
- Bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
- Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.
Statws IUCN 3.1
[golygu | golygu cod]Galeri o faneri Statws IUCN 3.1
[golygu | golygu cod](Hen gofrestriadau)
-
LC
-
NT
-
CD
-
VU
-
EN
-
CR
-
EW
-
EX
-
Pob un
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stearns, Beverly Peterson; Stearns, S. C.; Stearns, Stephen C. (2000). Watching, from the Edge of Extinction. Yale University Press. t. 1921. ISBN 978-0-300-08469-6. Cyrchwyd 2014-12-27.
- ↑ Novacek, Michael J. (8 Tachwedd 2014). "Prehistory's Brilliant Future". New York Times. Cyrchwyd 2014-12-25.
- ↑ 3.0 3.1 Newman, Mark (1997). "A model of mass extinction". Journal of Theoretical Biology 189: 235–252. doi:10.1006/jtbi.1997.0508. http://arxiv.org/abs/adap-org/9702003.
- ↑ G. Miller; Scott Spoolman (2012). Environmental Science – Biodiversity Is a Crucial Part of the Earth's Natural Capital. Cengage Learning. t. 62. ISBN 1-133-70787-4. Cyrchwyd 2014-12-27.
- ↑ Sahney, S., Benton, M.J. and Ferry, P.A. (2010). "Links between global taxonomic diversity, ecological diversity and the expansion of vertebrates on land" (PDF). Biology Letters 6 (4): 544–547. doi:10.1098/rsbl.2009.1024. PMC 2936204. PMID 20106856. http://rsbl.royalsocietypublishing.org/content/6/4/544.full.pdf+html.