Diferion gwydr
Gwedd
Swigod o wydr yw diferion gwydr[1] neu ddiferion y Tywysog Rupert a wneir trwy ddiferu gwydr tawdd i mewn i ddŵr. Maent yn edrych yn debyg i benbyliaid.
Mae ganddynt ddiriant gweddillol uchel iawn. O ganlyniad, os caiff y cynffon ei dorri o gwbl, mae'r holl ddiferyn yn ffrwydro'n fanion. Y Tywysog Rupert a ddaeth â diferion gwydr i Loegr yn gyntaf.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1077 [Prince Rupert's drops].
- ↑ Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1058.