Denis
Gwedd
Denis | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 g ![]() Italia ![]() |
Bu farw | c. 250 ![]() Lutetia ![]() |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig ![]() |
Blodeuodd | 3 g ![]() |
Swydd | Roman Catholic bishop of Paris ![]() |
Dydd gŵyl | 9 Hydref ![]() |
Nawdd-sant Ffrainc yw Sant Denis neu Dionysius (bu farw c. 250 neu tua 270). Merthyrwyd ef ym Mharis, ar y safle a elwir yn awr yn Montmartre.
Yn ôl y chwedl, wedi torri ei ben, cododd ei ben yn ei ddwylo a cherddodd am rai milltiroedd, gan bregethu. Yn y fan lle claddwyd ef, yn awr Saint-Denis i'r gogledd o ganol Paris, adeiladodd Dagobert I, brenin y Ffranciaid, abaty, a dyfodd i fod yn bwysig dan yr Abad Suger o 1120 ymlaen. Claddwyd y rhan fwyaf o frenhinoedd Ffrainc ym Masilica Sant Denis yma.