Neidio i'r cynnwys

David Owen (Brutus)

Oddi ar Wicipedia
David Owen
FfugenwBrutus Edit this on Wikidata
Ganwyd1796 Edit this on Wikidata
Llanpumsaint Edit this on Wikidata
Bu farw1866 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpregethwr Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Brutus.

Llenor dadleuol, golygydd a phregethwr Cymreig oedd David Owen, sy'n adnabyddus dan ei ffug enw Brutus (?Rhagfyr 179516 Ionawr 1866), ganed yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd ei fagu yn Annibynnwr yn Sir Gaerfyrddin a threuliodd gyfnod mewn rhannau eraill o'r wlad fel ysgolfeistr. Cychwynodd fel brentis o feddyg cyn troi'n weinidog gyda'r Bedyddwyr. Yr oedd hefyd yn bregethwr gyda'r Annibynwyr ac yn ysgolfeistr. Troes ei gefn ar Ymneilltuaeth ac ymunodd ag Eglwys Loegr yn 1835 lle daeth yn olygydd Yr Haul, cylchgrawn yr Anglicaniaid yng Nghymru. Yr oedd hefyd yn olygydd ar bapurau Lleuad yr Oes ac Yr Efengylydd. Cyhoedoddodd nifer o lyfrau ar bynciau crefyddol at ddefnydd y dyn cyffredin. Yn ogystal ysgrifennodd dau hunangofiant byr ar John Elias a Christmas Evans. Mae wedi ei gladdu ym mynwent Llywel ym Mhowys.

Y dychanwr

[golygu | golygu cod]

Fel golygydd a llenor daeth yn adnabyddus am ei ymosodiadau llym a deifiol, mewn erthyglau a llyfrau, ar bregethwyr lleyg swnllyd yr enwadau Ymneilltuol, yn enwedig y rhai a bregethai yng ngefn gwlad Cymru, am eu diffyg moesoldeb a'u hanwybodaeth. Yr enwocaf o'r rhain oedd y stori ddychanol Wil Brydydd y Coed, a ymddangosodd yn gyntaf yn Yr Haul rhwng 1863 a 1865. Yn y llyfrau hyn a nifer fawr o erthyglau, mae Brutus yn ymosod yn llym ar y 'jacs' (pregethwyr ymneilltuol) a 'Jacyddiaeth.' Gwawdiai'r beirdd eisteddfodol, meddygon "cwac" ac ofergoelion hefyd. Ceidwadwr o ran ei wleidyddiaeth oedd Brutus, a aeth mor bell ag i ddychanu'r Gymraeg ei hun, neu o leiaf y beirdd israddol a oedd mor barod i'w dyrchafu i'r cymylau, ond er bod ei faes yn gyfyng roedd yn un o awduron rhyddiaith gorau ei oes.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gwaith Brutus

[golygu | golygu cod]
  • Cofiant John Elias
  • Cofiant Christmas Evans
  • Cofiant Wil Bach o'r Pwll-dŵr (dychan)
  • Cofiant Siencyn Bach y Llwywr (dychan)
  • Cofiant Dai Hunan-dyb (dychan)
  • Wil Brydydd y Coed (dychan)
  • Brutusiana (1855), cyfrol o'i erthyglau a'i ysgrifau

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]
  • Thomas Jones, 'Brutus,' yn Mân Us (Caerdydd, 1949)