Neidio i'r cynnwys

David Crystal

Oddi ar Wicipedia
David Crystal
Ganwyd6 Gorffennaf 1941 Edit this on Wikidata
Lisburn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethieithydd, llenor, sociolinguist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Fellow of the Chartered Institute of Linguists, Honorary Fellow of Wolfson College Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.davidcrystal.com Edit this on Wikidata

Ieithydd, academydd ac awdur yw'r Athro David Crystal, OBE (ganwyd 6 Gorffennaf 1941).

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Crystal yn Lisburn, Gogledd Iwerddon. Fe'i magwyd yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghaergybi ac yna Lerpwl lle mynychodd Goleg y Santes Fair o 1951.[1] Astudiodd Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain rhwng 1959 a 1962.[1]

Roedd yn ymchwilydd o dan Randolph Quirk rhwng 1962 a 1963, yn gweithio ar Arolwg o Ddefnydd y Saesneg.[1][2] Ers hynny mae wedi darlithio yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor ac rhwng 1965 a 1985 bu'n Athro Gwyddor Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Reading. Mae'n Athro Ieithyddiaeth er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.[3]

Ers ymddeol o waith academaidd llawn amser, bu'n gweithio fel awdur, golygydd ac ymgynghorydd ac mae'n cyfrannu i ddarllediadau radio a theledu. Mae ei gysylltiad gyda'r BBC yn amrywio o gyflwyno cyfres am faterion ieithyddol ar BBC Radio 4, i bodlediadau ar wefan y Gwasanaeth y Byd BBC ar gyfer pobl sy'n dysgu Saesneg.[4][5]

Yn 1995 derbynnodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r iaith Saesneg. Mae'n awdur dros 60 o lyfrau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth, mae hefyd wedi golygu a chyfrannu at nifer o gyfeirlyfrau. Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae'n byw yng Nghaergybi gyda'i wraig, sy'n gyn-therapydd lleferydd a nawr yn awdur plant. Mae ganddo pedwar o blant. Mae ei fab Ben Crystal hefyd yn awdur a wedi cyd-ysgrifennu tri llyfr gyda'i dad.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "All About...The Author". Cambridge University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-19. Cyrchwyd 22 May 2015.
  2. "Staff Profile of Professor David Crystal". Prifysgol Bangor University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-17. Cyrchwyd 22 May 2015.
  3. "David Crystal profile". The Guardian. Cyrchwyd 22 May 2015.
  4. "Biography". Crystal Reference. 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-26. Cyrchwyd 2007-10-15.
  5. Hazel Bell (1 October 1999). "David Crystal". Journal of Scholarly Publishing. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2007-10-15.
  6. Lo Dico, Joy (14 March 2010). "Watch what you're saying!: Linguist David Crystal on Twitter, texting and our native tongue". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 21 May 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]