Neidio i'r cynnwys

Dafydd Williams

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Williams
Ganwyd16 Mai 1954 Edit this on Wikidata
Saskatoon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Alma mater
Galwedigaethgofodwr, meddyg Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol McMaster
  • Southlake Regional Health Centre Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Gofodwyr NASA, NASA Outstanding Leadership Medal Edit this on Wikidata

Athro prifysgol, meddyg o Ganada a gofodwr wedi ymddeol o CSA yw Dafydd Rhys Williams (ganwyd 16 Mai 1954). Bu yn y gofod am 687 awr, ac yn "cerdded" y tu allan i'r llong ofod am 17 awr a 47 munud. Mae hefyd yn beilot trwyddedig ac yn nofiwr tanddwr.

Cafodd ei eni yn Saskatoon, Saskatchewan yng Ngorllewin Canada ond ganwyd ei dad yn Bargoed, Cymru.[1] Derbyniodd radd B.Sc o Prifysgol McGill, Montreal, ym 1976 a gradd meistr mewn Llawfeddygaeth ym 1983. Dechreuodd weithio i Asiantaeth Ofod Canada ym Mehefin, 1992. Gwasanaethodd i NASA o Orffennaf 1998 hyd Tachwedd 2002 fel Cyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd Gofod yn Johnson Space Center.

Gwnaeth gyfweliad teledu ar y BBC, lle siaradodd Gymraeg, ac aeth a Chap Rygbi Rhyngwladol a enillwyd gan Gareth Edwards, Baner y Ddraig Goch[2] a gonc Mistar Urdd gydag ef ar daith i'r gofod[3].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]