Daearyddiaeth ffisegol
Prif faes daearyddiaeth ffisegol yw gwyddor Daear. Mae'n ceisio deall y lithosffer, yr hydrosffer, yr atmosffer, y pedosffer a phatrymau fflora a ffawna (sef y bioseffer). Caiff y maes eang 'Daearyddiaeth' ei rhannu'n ddwy brif faen, y maes hwn a'i chwaer faes, Daearyddiaeth ddynol; mae'r naill yn perthyn yn agos iawn i'r llall e.e. pan sonir am effaith pobl ar y Ddaear, ni ellir osgoi'r ochr ffisegol o'r Ddaear.
Mae ymchwil o fewn daearyddiaeth ffisegol yn un rhyngddisgyblaethol ac yn defnyddio'r dull 'systemau'.
Gellir dosbarthu daearyddiaeth ffisegol fel hyn:
Y termau arferol am Ddaearyddiaeth ffisegol yn Saesneg yw: Physical geography, geosystems a physiography.[1][2]
Hanes y ddisgyblaeth
[golygu | golygu cod]Ers pan cychwynwyd astudio'r maes yng nghyfnod y Groegwyr, a hyd at y C19 hwyr pan cychwynodd 'daearyddiaeth anthropolegol', gwyddoniaeth natur oedd daearyddiaeth gan fwyaf: yr astudiaeth o le a rhestr o leoedd y byd. Gellir nodi'r gweithiau neu'r gwyddonwyr canlynol fel rhai o'r cyhoeddiadau pwysicaf eu hoes yn y maes hwn: Strabo (Geographicarum), Eratosthenes (Geographika), Martín Fernández de Enciso (Summa de Geografía), Dionisio Periegetes (Periegesis Oiceumene) ac yn C19: Alexander von Humboldt (Kosmos).
Y ddwy ffactor cryfaf yn y torriad o'r prif faes daearyddiaeth yn C19 oedd yn gyntaf twf gwladychol, colonial rhai gwledydd i fewn i Asia, Affrica, Awstralia ac America - gan ymchwilio gan grafangu deunyddiau crai'r ardaloedd hyn, er mwyn bwydo'r Chwyldro Diwydiannol roeddent wedi ei greu. Er mwyn y twf a'r ehangu tiroedd hyn, crewyd nifer o adrannau newydd mewn prifysgolion i fapio'r 'Byd newydd' hwn. Yr ail ffactor yn sefydlu daearyddiaeth ffisegol yn wyddor ynddi ei hun oedd y datblygiadau cyffrous ym myd esblygiad gan Darwin a gafodd gryn effaith ar yr Almaenwr, y swolegydd a'r daearyddiaethwr Friedrich Ratzel (1844 – 1904) ac a ddatblygodd y wyddor rydym yn ei adnabod heddiw fel Bioddaearyddiaeth. Ystyrir y crynnwr William Morris Davis o Philadelphia, Pennsylvania yn Unol Daleithiau America hefyd fel un a ddatblygodd y maes hwn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |
- ↑ Fundamentals of Physical Geography, 2nd Edition, by M. Pidwirny, 2006
- ↑ Pidwirny, Michael; Jones, Scott (1999–2015). "Physical Geography".